BYDD Cwmni Theatr Arad Goch yn cyflwyno cynhyrchiad theatr stryd newydd cyffrous, Beca’n Galw!, yn ystod Eisteddfod y Garreg Las eleni, gan wahodd cynulleidfa i ymuno mewn gorymdaith fywiog a phrofi theatr yn fyw yng nghanol y maes.
Wedi’i ysbrydoli gan hanes, a chwyldro'r Merched Beca, mae’r cynhyrchiad yn arddangos eu stori mewn ffordd bwerus a chyfoes.
Trwy gyfuniad o symudiad corfforol, cerddoriaeth a delweddau gweledol trawiadol, bydd Beca’n Galw! yn archwilio themâu cyfiawnder, gwrthryfel a grym llais y gymuned.
Wedi’i greu’n benodol ar gyfer Eisteddfod y Garreg Las, mae’r perfformiad yn dod â’r gynulleidfa i ganol y weithred, gan greu profiad trochi unigryw sy’n ailgynnau ysbryd protest mewn ffordd sy’n berthnasol i Gymru heddiw.
Un o elfennau allweddol y prosiect yw’r cydweithio rhwng perfformwyr proffesiynol ac artistiaid lleol.
Drwy gyd-greu’r gwaith, mae’r cynhyrchiad yn adlewyrchu lleisiau, profiadau a straeon y gymuned gyfan, gan sicrhau bod y perfformiad yn perthyn i’r bobl a’r lle sy’n ei ysbrydoli.
Meddai Ffion Wyn Bowen, y cyfarwyddwr artistig: "Mae hanes y Merched Beca yn un sy’n dal i atseinio heddiw.
“Trwy'r cynhyrchiad hwn rydym am ddathlu cryfder cymunedau, pwysigrwydd sefyll dros gyfiawnder, a’r gallu sydd gan bobl i ddod at ei gilydd i greu newid.”
Mae Arad Goch yn gwahodd pawb i ddod gyda nhw ar yr orymdaith, ymuno yn y cyffro ar y maes, a bod yn rhan o brofiad theatraidd unigryw sy’n dathlu un o straeon mwyaf eiconig Cymru.
Rhodri Evan, Ioan Hefin, Ioan Gwyn, ac Huw Ferguson yw aelodau’r cast a Cêt Haf yw’r coreograffydd.
Cwmni theatr proffesiynol yng Ngheredigion yw Theatr Arad Goch wedi’i leoli yng nghanol tref Aberystwyth.
Mae’n un o brif gwmnïau theatr Cymru sy’n creu ac yn cynhyrchu gwaith ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.