BYDD argraffiad newydd sbon o ‘garreg filltir bwysig yn ein twf llenyddol,’ [yn ôl W. J. Gruffydd] yn cael ei gyflwyno i gynulleidfa fodern ar 20 Medi.

Dyma aileni gwaith cyhoeddedig cynharaf Kate Roberts, a fydd yn cael ei lansio fel rhan o ddathliadau ‘Cofio Kate’ ym mro ei mebyd, Rhosgadfan.

Mae’r ddiweddar Kate Roberts – neu “Cadi” i’w theulu – yn ffigur hynod ddylanwadol ym myd llenyddiaeth Gymraeg, ac yn enw sy’n dal ei dir ymysg llenorion hyd heddiw.

Mae’r gyfrol newydd hon yn rhoi cyfle i genhedlaeth newydd fwynhau trysor ei gwaith cyntaf.

Yng ngeiriau T. Gwynn Jones: “Dyma awdures sy feistres ar ei chrefft, wrth y safonau gorau. Fel y maent y gwêl hi bethau, ac ni thwyllir moni gan yr olwg ar y wyneb.”

Dyma naw stori amrywiol o ran naws a thema, yn llawn chwerthin a dagrau, am drigolion bröydd chwarelyddol – cymeriadau o gig a gwaed, â’u traed yn go solet ar y ddaear.

Er yn perthyn i’w cyfnod, mae yna rywbeth rhyfeddol o ddiamser yn perthyn i bob stori.

Mae hyn yn bennaf oherwydd dawn yr awdures i ysgrifennu pobl – i ddeall natur pobl ac i gyfleu agweddau oesol ar ddynoliaeth.

Meddai Angharad Tomos: “Mae’r ddeialog yn ddeifiol, yn ddwys, yn graff ac yn ddoniol.

“Os ydych chi eisiau camera ar gymdeithas mewn pentref yn Arfon yng nghyfnod y chwareli, chewch chi ddim darlun gwell.

“Ar yr un pryd, yn dreiddgar ac yn onest, mae gwaith cynnar yr awdures ifanc hon yn dal yn enbyd o gyfoes.”

Mae clawr newydd y gyfrol yn seiliedig ar brint gan Richard Farmer, Rhostryfan, sy’n darlunio mynydd y Cilgwyn drwy giât mynwent Rhosgadfan – ble mae beddi teulu Kate Roberts.

Mae giât y fynwent hon yn un go arbennig efo pen neidr, a da fyddai canfod pwy oedd y sawl a’i gwnaeth.

Yn ddiddorol, ‘Y Cilgwyn’ oedd yr enw a roddodd yr awdures ar ei chartref yn Ninbych.

Lansiad

6pm, nos Iau, 11 Medi ym Mhalas Print, Caernarfon – yng nghwmni Angharad Price ac Angharad Tomos.