MAE arlunydd Cymreig wedi derbyn gwahoddiad i fod yn rhan o arddangosfa rhyngwladol arbennig yn un o ddinasoedd celf amlyca'r byd.
Mae Wynne Melville Jones, sy'n byw ac yn gweithio o'i stiwdio yn Llanfihangel Genau'r Glyn, yng Ngheredigion wedi derbyn gwahoddiad i fod yn rhan o arddangosfa rhyngwladol sy'n cael ei threfnu i gefnogi y Biannale, gŵyl sy'n cael ei hystyried ymysg mwyaf aruchel a blaengar yn y byd yn y byd celf.
Cynhelir yr arddangosfa hon yn y Piazza San Marco, Fenis, 16-30 Hydref, yn Palazzo Albritzz.
Derbyniodd Wyn Mel y gwahoddiad i Fenis yn gwbl annisgwyl gan y curadur oedd wedi gweld ei waith.
Roedd hynny yn union wedi i'r artist ddychwelyd adre i Geredigion o Zurich lle bu'n rhannu ei gelf gyda'r byd yn ehangach ar ddechrau Medi.
Bu'r daith honno i'r Swistir yn llwyddiannus iawn. Roedd mynd yno yn glamp o fenter iddo ac roedd maint yr achlysur wedi ei syfrdanu.
Yn ôl Wyn: "Roeddwn wedi rhyfeddu at raddfa'r achlysur wrth i 400,000 o bobl o bedwar ban y byd ymweld â'r arddangosfa yn ystod yr wythnos i weld gwaith 130 o artistiaid rhyngwladol.
"A fi oedd yr unig Gymro yn eu plith a phob un o'm lluniau wedi eu hysbrydoli gan dirlun, hanes, diwylliant a ffordd o fyw gorllewin Cymru.”
Mae Wyn wedi dewis darlun sy’n cyfleu naws arbennig Ynyslas i’w arddangos yn Fenis.
Meddai: "Mae'r darlun rwyf wedi ei ddewis yn un sy'n nodweddiadol o fel mae fy arddull baentio wedi symud yn ystod y flwyddyn ddiwetha ac mae'r testun yn gwbl addas ar gyfer ei arddangos yn Fenis.
“Mae Fenis ac Ynyslas yn ddau le gwahanol iawn ond mae yna gymhariaethau amlwg.
“Mae yna nodweddion clir megis pwysigrwydd ac arwyddocâd dŵr a môr, ac afon, harddwch neilltuol a naws, lliwiau a golau.”






Comments
We've recently changed our login process. If you have an account for commenting, you will need to re-register on the login window.
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.