MAE’R cynllun Dysgu Cymraeg, sy’n bartneriaeth rhwng S4C a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, wedi cyrraedd dros 200 o bobl sy’n gweithio yn y diwydiant darlledu yng Nghymru mewn llai na blwyddyn.

Mae dros 150 o bobl eisoes wedi derbyn cefnogaeth, gyda mwy na 50 o bobl yn barod i ddechrau sesiynau yn ystod tymor yr Hydref.

Flwyddyn yn ôl, cafodd Gwyneth Jones ei phenodi yn diwtor Dysgu Cymraeg i weithio’n benodol gyda S4C a’r sector cynhyrchu ehangach.

Daw’r newyddion am y niferoedd sydd wedi manteisio ar y ddarpariaeth yn ystod Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg 2026.

Mae’r bobl sydd wedi derbyn cymorth gyda’u Cymraeg yn cynnwys staff S4C, y cwmnïau cynhyrchu annibynnol, gweithwyr llawrydd a chyfranwyr nifer o gyfresi ar S4C.

Mae’r cynllun yn cynnig grwpiau wythnosol, yn ogystal â sesiynau un-wrth-un.

Dywedodd Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C: “Mae cefnogi dysgwyr a siaradwyr newydd yn eithriadol o bwysig i ni yn S4C, wrth i ni gefnogi amcan Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr a dyblu’r defnydd o’r Gymraeg erbyn 2050.

“Mae’n partneriaeth gyda’r Ganolfan yn parhau i ddatblygu, ac yn ogystal â’r gwersi, mae’n wych i weld y cynnwys sy’n cael ei gomisiynu yn cael ei wylio, ei werthfawrogi a’i weld fel adnodd sy’n cyfoethogi’r broses o ddysgu’r Gymraeg.”

Ychwanegodd Dona Lewis, prif eeithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Creu mwy a mwy o gyfleoedd i bobl ddysgu a defnyddio’r Gymraeg yw prif nod y Ganolfan, boed hynny’n gymunedol neu drwy gynlluniau â sectorau a gweithluoedd penodol.

“Mae ymchwil y Ganolfan yn dangos bod ein dysgwyr yn awchu am gyfleoedd i ddefnyddio a mwynhau eu Cymraeg, ac mae gwylio a gwrando ar gynnwys Cymraeg ar y cyfryngau yn ffordd wych o wneud hynny.

“Mae’r bartneriaeth ag S4C yn un allweddol, felly, sy’n cyflawni dau beth – galluogi staff y sector darlledu i gryfhau eu sgiliau Cymraeg a magu hyder i ddefnyddio’r iaith yn y gwaith a’u bywydau pob dydd, a chefnogi’r darlledwr i greu cynnwys addas sy’n denu dysgwyr a siaradwyr newydd.”

Fel rhan o arlwy S4C yn ystod Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg, bydd pennod arbennig o Y Deis Selebs, gyda Aleighcia Scott, Alun Wyn Jones a Mike Bubbins, sy’n dysgu Cymraeg, yn ymuno â Mali Ann Rees, Jonathan ‘Fox’ Davies ac Eleri Siôn.

Bydd y bennod arbennig yn lansio ail gyfres o’r sioe gwis boblogaidd sy’n cyfuno gwybodaeth gyffredinol gydag ychydig bach o lwc.

Mewn dangosiad arbennig o’i chyfres newydd Gwalia Aleighcia yn ystod Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg, dywedodd Aleighcia Scott: “Mae mor bwysig i ddathlu dysgwyr Cymraeg achos ni angen annog mwy a mwy o bobl i deimlo’n saff yn dechrau dysgu a saff i ddefnyddio’r Gymraeg maen nhw’n gael a jyst mor bwysig i ddathlu’r iaith hefyd.”

“I fi, y peth gorau am ddysgu Cymraeg yw dwi’n teimlo’n fwy connected i Gymru a dwi’n deall mwy am Gymru nawr, dwi’n teimlo jysd rhan o fe,” ychwanegodd.

Mae cynnwys amrywiol ar gyfer siaradwyr Cymraeg newydd hefyd ar gael i’w wylio ar Facebook, Instagram, TikTok a YouTube S4C Dysgu Cymraeg.