BYDD nofel gyntaf y dramodydd a’r acto o Forfa Nefyn, Mared Llywelyn, yn cael ei chyhoeddi ar 10 Medi. Mae Suddo yn nofel bwerus, gyfoes sy’n dilyn diwrnod ym mywyd dynes wrth iddi gael aduniad gyda’i ffrindiau o’r brifysgol yn Aberystwyth.
Disgrifiwyd y nofel fel “campwaith” gan Bethan Gwanas; fel un sy’n “pefrio â gwirioneddau a gonestrwydd” gan Casia Wiliam ac fel “ffilm o nofel lle mae un noson allan yn Aber yn ymestyn y tu hwnt i ffiniau amser, i gwmpasu bywyd cyfan... Hollol addictive.” gan Georgia Ruth.
 hwythau’n dathlu troi’n 30 oed, mae bywyd wedi newid cryn dipyn i’r bedair ffrind ers gadael y Coleg ger y lli.
Wrth i’r dydd fynd rhagddo, mae yma ymddatod ar sawl ystyr ac wrth i’r diod lifo a thafodau lacio, daw cyfrinachau a thensiynau i’r wyneb. Mae’r nofel yn ymdrin â delwedd corff, iechyd meddwl, iselder, cydsyniad a thrais rhywiol.
Meddai Mared Llywelyn: “Mwynhad pur oedd cael camu’n ôl i sgidiau myfyriwr yn Aber, y dref hudolus ger y lli. Mae’r lle yn llawn atgofion... ond mae’n hawdd rhamantu! Am hwyl oedd cael y cyfle i ystumio a lliwio’r atgofion hynny i greu cymeriadau a stori cwbl newydd yn Suddo.”
Mae Maed yn gweithio fel swyddog addysg a gwirfoddoli yng nghanolfan dreftadaeth Plas Carmel yn Anelog.
Hi yw awdur Croesi’r Llinell (Arad Goch, 2022), Croendena (Frân Wen, 2023), Taigh/Tŷ/Teach (Bara Caws, Theatre Gu Leòr, Fishamble, 2024) Dal Gafael / Hold On(Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Theatr Cymru, 2024) ac Wythnos yng Nghymru Fydd (Frân Wen, 2026). Mae wedi actio yn Parti Priodas ac Effi o Blaenau. Suddo yw ei nofel gyntaf.
Canmoliaeth am Suddo
Bethan Gwanas: “Cydiodd hon ynof fi o’r cychwyn cyntaf; ro’n i’n gwenu, chwerthin, uniaethu, cofio, gwingo a dal fy ngwynt tan y diferyn olaf. Mae hon i bawb fu’n fyfyriwr, i bawb fu ar aduniad coleg, i bawb sy’n dal i geisio gwneud synnwyr o gyfnod od eu hugeiniau, i bawb sy/fu yn sengl, i bawb sy/fu yn un o griw o ffrindiau agos. Ac mae hon yn gampwaith.”
Casia Wiliam: “Mae Suddo yn cydio o'r cychwyn cyntaf ac yn pefrio â gwirioneddau, gonestrwydd a hiwmor. Dyma awdur cynnil, craff a chrafog fydd yn gwneud i chi chwerthin a chrio am yn ail.”
Georgia Ruth: “Ffilm o nofel lle mae un noson allan yn Aber yn ymestyn y tu hwnt i ffiniau amser, i gwmpasu bywyd cyfan. Yn ei sgwennu tyner a gonest, mae Mared Llywelyn yn dal holl felancoli a nostalgia blêr y dref; a’r ddeuoliaeth hanfodol sy’n perthyn iddi, lle mae popeth yn aros yr un fath, ond lle mae popeth yn newid. Ac i’r ddysgl newidiol a rhyfedd hon, mae hi’n arllwys ei chymeriadau – yn eu holl gymhlethdodau – i weld all y dref eu cynnal, a’u hadfer nhw, fel halen ar friw. Hollol addictive. I’w darllen mewn un go!”
Bydd Suddo yn cael ei lansio’n swyddogol ar nos Sadwrn 19eg o Fedi am 7:30yh yn Neuadd Dwyfor Pwllheli. Bydd Mared Llywelyn yn cael ei holi gan Marged Tudur. Darlleniadau gan Lois Elenid, Mali Elwy a Mirain Fflur. Adloniant gan Elliw Jones. Croeso cynnes i bawb! Tocynnau (am ddim!) ar gael ar wefan Neuadd Dwyfor.






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.