HYDREF diwethaf cyhoeddwyd almanac Cymraeg a Chymreig, cyfrol clawr caled hardd, yn llawn lluniau’r arlunydd Bethan Mai.
Erbyn y flwyddyn newydd, roedd Almanac: O fis i fis wedi gwerthu allan – tan nawr! Mae hydref 2026 yn nodi ailgyhoeddi’r llyfr sy’n ein tywys ni trwy’r flwyddyn, gan ddathlu pob mis yn ei dro.
Mae’r gyfrol yn waith pedwar aelod o’r un teulu – Ruth Morgan a’i merched, Rhiannon Mair, Bethan Mai a Mari Morgan, yn wreiddiol o Sir Gaerfyrddin.
Meddai Rhiannon Mair: “Fel teulu rydym yn hoff iawn o ddathlu’n dywediadau teuluol a thymhorol, ac rydym wedi gweld, yn fwy ers Cofid efallai, bod talu sylw at ein hamgylchedd yn ystod y flwyddyn wedi ein helpu ni i ddaearu.”
Daeth y teulu at ei gilydd i greu’r gyfrol, gyda Rhiannon, Bethan, Mari a Ruth yn bwrw ati i gasglu’r deunydd amrywiol, gan gynnwys dywediadau, traddodiadau, ryseitiau, ffeithiau, cherddi a hanesion ac yna Bethan Mai, sydd hefyd yn arlunydd, yn creu lluniau gwreiddiol i gyd-fynd â’r geiriau.
Mae’r almanac hyfryd hwn yn trafod traddodiadau ac arferion hen a newydd Cymru, a’r holl ddiwylliannau sy’n cyfoethogi ein gwlad, gan gynnig ffeithiau a syniadau fydd yn annog, yn pryfocio ac yn codi gwên, yn ogystal â chynnig lle i gofnodi pen-blwyddi teulu a ffrindiau.
Meddai Ruth Morgan: “Nid almanac ar gyfer un blwyddyn yn benodol yw hwn, a gobeithio y bydd pobl yn darllen y gyfrol ar eu telerau nhw. Yn bersonol, bydden i’n darllen am bob mis yn ystod y mis hwnnw, ond os yw’r darllenwyr yn cael blas mae croeso iddyn nhw ddarllen y gyfrol i gyd yn un swp!”
Lansiwyd yr ailgyhoeddiad yn y Lle Llyfrau ar faes Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las, gyda Meleri Wyn James yn holi’r pedair.
Mae Almanac: O fis i fis ar gael nawr (£14.99, Y Lolfa).






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.