YR wythnos hon cyhoeddir nofel gan yr awdur a’r sgriptwraig Caryl Lewis, sef Haf o Hud.

Dyma’r ail nofel i Caryl ei hysgrifennu ar gyfer plant 9 i 13 oed sy’n pontio oed cynradd ac uwchradd.

Meinir Wyn Edwards sydd wedi addasu’r gyfrol hon yn ogystal â chyfrol gyntaf Caryl Lewis â Macmillan, sef Hedyn.

Meddai Meinir Wyn Edwards: “Mae Caryl Lewis wedi llwyddo unwaith eto i greu byd hudolus, llawn dychymyg ar gyfer plant. Mae hi wedi bod yn fraint aruthrol i addasu Haf o Hud.”

Disgrifir Haf o Hud yn nofel sy’n “codi calon ac yn llawn gobaith” gan yr awdur Katherine Woodfine.

Meddai Caryl: “Pleser pur oedd gweithio gyda Meinir wrth iddi addasu Haf o Hud.

“Dwi wrth fy modd y bydd plant Cymru yn cael dod i adnabod Abi a’i thad.

“Mae hi’n stori am deulu ac am yr hud sydd i’w ddarganfod yn y llefydd mwya di- nod.

“Dwi’n credu bod angen ychydig bach o hud yn y byd sydd ohoni!”

Ar ôl trychineb o sioe, mae tad Abi yn penderfynu gadael y byd hud a lledrith.

Roedd mam Abi yn gonsuriwr o fri. Ond mae hi wedi mynd, a dyw pethau ddim yr un fath.

Ond un diwrnod daw Abi o  hyd i hen lyfr swynion ei mam sy’n dod â llawenydd a rhyfeddodau i’r gymuned gyfan.

Dyma stori ryfeddol am bŵer cymuned, sy’n rhoi cyfle i bawb serennu.

Ganwyd Caryl Lewis yng Ngorffennaf, 1978. Enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2005 gyda'i nofel Martha, Jac a Sianco a addaswyd i ffilm yn 2008.

Yn 2023 enillodd Brif Wobr Saesneg Llyfr y Flwyddyn (Llenyddiaeth Cymru) am ei chyfrol Drift.

Roedd eisoes wedi ennill Gwobr Llyfr Cymraeg y Flwyddyn yn 2005 am ei chyfrol Martha, Jac a Sianco a Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2016 gydag Y Bwthyn.

Fe'i magwyd yn Aberaeron cyn symud pan yn 12 oed yn ôl i’r fferm deuluol yn Nihewyd.

Mae'n ferch i'r gantores canu gwlad Doreen Lewis.

Aeth i YSgol Gynradd Aberaeron ac Ysgol Gyfun Aberaeron cyn mynd yn ei blaen i astudio ym Mhrifysgol Durham a Choleg Prifysgol Aberystwyth.

Mae Haf o Hud gan Caryl Lewis, addasiad gan Meinir Wyn Edwards, ar gael nawr (£7.99, Y Lolfa).