MAE Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi maniffesto a blaenoriaethau clir y mae’n gobeithio y bydd yr holl bleidiau yn barod i’w mabwysiadu cyn etholiad Senedd Cymru yn 2026.
Wrth gydnabod yr heriau ariannol sydd yn parhau i wynebu sefydliadau mae Efa Gruffudd Jones wedi amlinellu pum maes blaenoriaeth allai wneud gwahaniaeth gwirioneddol i gryfhau sefyllfa’r Gymraeg yn nhymor cyntaf y Senedd ar ei newydd wedd.
Mae’r rhain yn cynnwys ymestyn safonau’r Gymraeg i feysydd blaenoriaeth, creu uned arbenigol i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle a sicrhau hyfforddiant Cymraeg gorfodol ar gyfer y gweithlu addysg.
Yn ôl Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, mae cyfnod nesaf y Senedd am fod yn allweddol o ran y Gymraeg.
Meddai: “Mae fy uchelgais fel Comisiynydd yn mynd y tu hwnt i ddehongliad cul o’r hyn sy’n ddisgwyliedig ohonof gan Fesur y Gymraeg, ac rwyf yn awyddus i arwain corff sy’n gwneud mwy ac yn cyfrannu’n fwy sylweddol at waith cynllunio ieithyddol ehangach.
“O ganlyniad mae’r maniffesto hwn yn gofyn am weithredu ac arweiniad gan Lywodraeth Cymru, beth bynnag fydd ei lliw, a chefnogaeth i hwyluso gwaith partneriaid allweddol eraill, gan gynnwys Comisiynydd y Gymraeg.
“Mae’r blynyddoedd nesaf am fod yn dyngedfennol i’r Gymraeg wrth i Fil y Gymraeg ac Addysg ddod yn weithredol ac wrth i argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg hwythau gael eu rhoi ar waith.
“Rwy’n llawn ymwybodol o’r pwysau sydd ar ein sefydliadau cyhoeddus a dyna’r rheswm dros nodi pum blaenoriaeth penodol yn y maniffesto hwn.
“Maent yn dilyn y llwybr a osodwyd yn ein cynllun strategol ac rwyf yn grediniol fod y rhain yn feysydd lle gellir gwneud y gwahaniaeth i’r defnydd o’r iaith.
“Byddwn yn awr yn awyddus i gynnal trafodaethau gyda’r pleidiau er mwyn cyflwyno ein maniffesto a’n rhesymeg dros nodi ein blaenoriaethau.
“Y gobaith yw y bydd y pleidiau yn barod i fabwysiadu ein cynigion ac i rheiny gael eu mabwysiadu cyn yr etholiad flwyddyn nesaf.”
Y pum blaenoriaeth sydd wedi eu cynnig yn y maniffesto yw’r canlynol:
- Dyletswyddau iaith - cynyddu’r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael i’r cyhoedd drwy ymestyn safonau’r Gymraeg i feysydd blaenoriaeth
- Cynllunio ieithyddol cymunedol - ymestyn dylanwad y Comisiynydd drwy gryfhau’r safonau hybu fel fframwaith i gydlynu cynllunio ieithyddol cymunedol dwys
- Gweithleoedd - sefydlu uned arbenigol yn swyddfa Comisiynydd y Gymraeg i gynyddu’r defnydd o'r Gymraeg mewn gweithleoedd
- Gwasanaeth iechyd a gofal clinigol - trawsnewid gofal clinigol yn Gymraeg drwy fuddsoddi a gweithredu’n ddwys mewn meysydd blaenoriaeth
- Y gweithlu addysg - sefydlu fframwaith hyfforddiant iaith Gymraeg pum mlynedd fel rhan orfodol o hyfforddi fel athro yng Nghymru
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.