MAE Ysgoloriaeth Cronfa Goffa Saunders Lewis ar agor ac yn gwahodd ceisiadau am grant i’w wario dros gyfnod o ddwy flynedd.

Mae cyfle i’r ymgeiswyr llwyddiannus dreulio amser ar gyfandir Ewrop yn astudio mewn amryw o feysydd, sef drama a/neu ffilm, systemau gwleidyddol a chysylltiadau llenyddol y celfyddydau cain gan gynnwys cerddoriaeth.

Mae’n bosib iddynt hefyd gyflwyno astudiaeth yn ymwneud â chyfraniad Saunders Lewis i lên, theatr neu wleidyddiaeth Cymru.

Mae cyfle bellach i wahanol fathau o allbynnau gael eu cyflwyno a gallai’r rheiny fod yn bodlediadau neu berfformiadau, nid 'astudiaethau' ysgrifenedig yn unig.

Yn ôl cadeirydd Ymddiriedolwyr y Gronfa, yr Athro M Wynn Thomas, mae hwn yn gyfle gwych,

“Sefydlwyd y gronfa yn wreiddiol i gynnig cyfleoedd i bobl ifanc yn bennaf i ymchwilio i feysydd oedd o ddiddordeb i Saunders ei hun.

“Mae hyn wedi galluogi Cymry ifanc i dreulio peth amser ar gyfandir Ewrop er mwyn gweld pa arwyddocâd a allai fod i Gymru yn y datblygiadau Ewropeaidd – cyfoes neu hanesyddol – yn y meysydd hyn.

“Ond mae’n ddigon posib hefyd iddynt edrych yn agosach at adref ac ystyried y cyfraniad aruthrol a wnaeth Saunders Lewis yma yng Nghymru.

“Mae’n gyfle bendigedig i rywun neu rywrai ac fe fyddwn yn annog y rhai sydd â diddordeb i gyflwyno cais erbyn y dyddiad cau.”

Un sydd wedi elwa o’r Gronfa yw Iwan Teifion Davies a dderbyniodd arian i lwyfannu un o operâu coll Saunders Lewis, Serch yw’r Doctor: “Roeddwn wedi bod yn awyddus ers peth amser i lwyfannu’r opera Serch yw’r Doctor gyda’r geiriau gan Saunders Lewis a’r gerddoriaeth gan Arwel Hughes.

“Pan welais fod y Gronfa yn agor am geisiadau roeddwn yn teimlo fod hwn yn gyfle gwych i geisio gwneud y freuddwyd yn realiti.

“Rwy’n falch iawn o fod wedi cael cyfle unigryw i allu llwyfannu’r cynhyrchiad hwn ym mis Gorffennaf ac mae fy niolch yn fawr i ymddiriedolwyr y Gronfa am eu cefnogaeth.

“Byddwn yn annog unrhywun sydd yn ystyried ymgeisio i fynd amdani.”

Mae’r Gronfa ar agor nawr am geisiadau a gellir gweld mwy o fanylion ar www.cronfagoffasaunderslewis.cymru. Noder bod angen cyflwyno gwybodaeth fanwl am gostau ac amserlen wrth ymgeisio.

Y dyddiad cau yw dydd Llun, 30 Mehefin 2025.