MAE Cyngor Sir Gâr a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi cyhoeddi partneriaeth newydd fydd yn arwain at fwy o gyfleoedd i oedolion sy’n gweithio â phlant a phobl ifanc i ddysgu neu fagu hyder yn y Gymraeg.
Bydd y bartneriaeth yn cefnogi’r cyngor i wireddu Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg y sir – cynllun sydd â’r nod o gynyddu a chryfhau’r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal.
Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg yn arbenigo ar ddysgu’r Gymraeg, ac mae’n gyfrifol am bob agwedd ar y sector Dysgu Cymraeg.
Yn ogystal â chyrsiau cymunedol ledled y wlad, mae’r Ganolfan yn darparu cynlluniau ar gyfer gwahanol sectorau a grwpiau, gan gynnwys byd addysg, iechyd a gofal a theuluoedd.
Fel rhan o’r bartneriaeth, bydd dewis o gyfleoedd hyfforddiant ar gael ar wahanol lefelau, o ddechreuwyr i godi hyder.
Bydd tiwtor Dysgu Cymraeg penodol i gefnogi’r gweithlu addysg, a bydd tiwtor yn cael ei leoli yn y cyngor, ar gyfer staff sy’n gweithio â plant a phobl ifanc.
Bydd modd i ymarferwyr gael mynediad at ddarpariaeth arall y Ganolfan, sy’n cynnwys cyrsiau wyneb yn wyneb, cyrsiau hunan-astudio ar-lein a dosbarthiadau rhithiol.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Gâr dros Addysg a'r Gymraeg - Y Cynghorydd Glynog Davies: "Rwy’n croesawu’n fawr y bartneriaeth strategol hon gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol fydd yn hynod o bwysig dros y blynyddoedd nesaf wrth i’r awdurdod symud ymlaen gyda’n dyheadau o ran addysg Gymraeg.”
Meddai Meinir Ebbsworth, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Strategol y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: "Mae’r bartneriaeth yn rhoi ffocws ar dair elfen greiddiol, sef y ddarpariaeth yn yr ysgol, y modd y gall y cartref gefnogi datblygiad y Gymraeg, yn ogystal â gwasanaethau eraill sy’n cefnogi plant a phobl ifanc.
"Dyma gynllun arloesol, gyda’r Ganolfan yn plethu ei gwasanaethau amrywiol â chynlluniau strategol hir-dymor, er mwyn cynorthwyo’r Cyngor i wireddu targedau Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg.”
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.