HENO (19 Mehefin) cyflwynwyd Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las i Bwyllgor Gwaith y Brifwyl mewn seremoni arbennig, a oedd yn rhan o lansiad dathliadau 850 mlwyddiant yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhyddewi.
Cyflwynir y Goron gan deulu’r Parch WJ Gruffydd (Elerydd) a Mrs Jane Gruffydd er cof, ac mewn gwerthfawrogiad o deyrngarwch a haelioni aelwydydd bro’r Eisteddfod yn ystod eu gweinidogaeth yn yr ardal, a rhoddir y wobr ariannol o £750 gan bapur bro Y Cardi Bach, er cof am eu cyn-olygyddion Mrs Rhoswen Llewellyn a’r Parchedig Euros Wyn Jones.
Cafodd ei chynllunio a'i chreu gan Elen a Dylan Bowen, y tîm gŵr a gwraig y tu ôl i Bowen Jewellery, yn eu gweithdy yng Nghastell Newydd Emlyn.
Fe’i chyflwynir am bryddest neu gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd, hyd at 250 o linellau, ar y testun ‘Adnabod’. Y beirniaid eleni yw Damian Walford Davies, Gwynfor Dafydd a Nia Powell.
Cafodd gwneuthurwyr y Goron eleni eu hysbrydoli gan yr hen ddihareb amaethyddol, ‘Aur dan y rhedyn, arian dan yr eithin, newyn dan y grug’, sy’n cyfeirio at ansawdd gwahanol dirweddau.
Gyda chymaint o dirweddau amrywiol o fewn dalgylch yr Eisteddfod, o’r traethau godidog a’r caeau ffrwythlon, i’r ucheldir hyfryd a gwydnwch mynyddoedd y Preseli, roedd Elen a Dylan yn awyddus iawn i’r Goron adlewyrchu’r cyfan sy’n arbennig am ardal y Garreg Las.
Meddai Elen: “Rydyn ni wedi ceisio cyfleu y tirwedd bryniog yng nghynllun y Goron. Ar fryniau'r Preselau mae cerrig unigol yn sefyll yn browd, ac rydyn ni wedi cynnwys hyn yn y Goron hefyd.

“Mae'r Nod Cyfrin wedi'i greu o ddarnau o garreg las. Nid yw'r garreg yn berl fel diemwnt sydd â sglein naturiol iddi, ond fe gafodd y gwaith o dorri'r garreg ei wneud gan gwmni arbenigol, ac rydyn ni’n hapus iawn gyda'r ffordd y mae'r garreg yn sgleinio yn ei lle yn y Goron."
Cafodd y brethyn sydd yng nghap y Goron ei greu’n arbennig ar ei chyfer gan wehyddwr yn Llanymddyfri, a dywed Elen: “Mae wedi defnyddio lliwiau'r tirwedd - melyn, piws, gwyrdd a brown - yn ddeheuig iawn. Mae bwa ar draws y Goron, ac mae modd gweld y brethyn drwyddo."
Mae’r llinell aur sy’n rhedeg ar draws blaen y Goron yn adlewyrchu’r Llwybr Aur sy’n rhedeg drwy’r Preselau, y llwybr a oedd yn cael ei ddefnyddio gan deithwyr a chludwyr nwyddau rhwng Iwerddon a Llundain ers talwm.
Dyma’r tro cyntaf i Elen a Dylan gynllunio a chreu Coron ar gyfer yr Eisteddfod, ac mae’r ddau yn credu’i fod yn anrhydedd fawr, yn enwedig gan mai dim ond ers tair blynedd maen nhw wedi bod yn rhedeg eu cwmni. Mae gan y ddau eu rôl penodol yn y gwaith o gynllunio a chreu gemwaith, gydag Elen yn cyfuno technegau gof aur traddodiadol gyda chelf gyfoes, a Dylan yn gofalu am ochr dechnegol eu gwaith a sicrhau bod pob darn yn strwythurol gadarn.
Yn ogystal â’r Goron, mae’r Gadair hefyd yn cael ei chyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith heno.
Y crefftwr, Tomos Lewis sy’n gyfrifol am gynllunio a chreu’r Gadair, ac fe’i chyflwynir gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, a rhoddir y wobr ariannol o £750 gan Geraint a Siân James, perchnogion siop Awen Teifi, Aberteifi.
Testun y Gadair eleni yw ‘Llinell | Llinellau’, a’r beirniaid yw Idris Reynolds, Mererid Hopwood a Carwyn Eckley.
Daw’r coed ar gyfer y Gadair eleni, ynghyd â’r defnydd ar gyfer y clustog a charreg y Nod Cyfrin o ddalgylch Eisteddfod y Garreg Las, a bu hanes a diwylliant yr ardal yn ysbrydoliaeth fawr i Tomos Lewis wrth iddo fynd ati i gynllunio’r wobr.
Dywed: “Mae blaen y Gadair wedi’i hysbrydoli gan gadair yr Arglwydd Rhys, sydd i’w gweld yng Nghastell Aberteifi. Gosodir y rhifau 2026 allan yn union fel y rhifau 1176 â siâp sgwâr cadarn. Mae cefn y Gadair wedi’i chreu trwy uno tri darn o bren i gynrychioli'r siroedd Penfro, Ceredigion a Chaerfyrddin, sef dalgylch Eisteddfod y Garreg Las.”
Mae amlinelliad o Foel Cwm Cerwyn, sef copa uchaf mynyddoedd y Preselau ar ben y Gadair, ac mae ei hochrau’n efelychu giât Merched Beca, yr amaethyddiaeth o fewn y tair sir, a’r giatiau sydd i’w gweld ar lwybr Arfordir Sir Benfro. Ar gefn y Gadair mae amlinell pont, i gynrychioli pontio rhwng y tair sir a’r bont yn Aberteifi.
"Derw yw pren y Gadair, ac mae'n dod o goeden fu'n tyfu ar dir Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Mae’n bren sydd wastad yn edrych yn ddeniadol yn y ffordd mae’n cael ei ddefnyddio ar gyfer celfi, a'r ffaith ei fod e’n bren caled. Fe fydda'i yn ei orffen â chŵyr gwenyn i drio cael y sglein sy'n neud iddo edrych yn ddeniadol," meddai Tomos.
Bydd y Nod Cyfrin wedi'i lunio o ddarnau o Garreg Las y Preselau, a gorchuddir y sedd gan garthen unigryw ‘Y Garreg Las’, a grëwyd yn arbennig ar gyfer yr Eisteddfod ym Melin Tregwynt ger Abergwaun.
Daw Tomos Lewis yn wreiddiol o Langlydwen. Mae’n gweithio fel athro Dylunio a Thechnoleg yn Ysgol Caer Elen, Hwlffordd, ac yn rhedeg busnes sy’n arbenigo mewn crefftwaith pren a gwaith ysgythru, sef Dail Pren.
Wrth dderbyn y Goron a’r Gadair ar ran yr Eisteddfod dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, John Davies: “Mae’n bleser bod yma heno i dderbyn y Goron a’r Gadair ar ran yr Eisteddfod.
“Rydyn ni yma heno ar gychwyn dathliadau 850 mlwyddiant yr Eisteddfod, yn dathlu derbyn Cadair a Choron Eisteddfod y Garreg Las, ac mae hyn yn anrhydedd o’r mwyaf i bob un ohonon ni ar bwyllgor gwaith yr Eisteddfod eleni.
“Dyma’r cyfle cyntaf i ni weld y Gadair a’r Goron, ac rwy’n sicr y bydd pawb ar hyd a lled Cymru wedi’u gwefreiddio wrth eu gweld am y tro cyntaf hefyd. Maen nhw’n gwbl hyfryd.
“Mae’r garreg las yn rhan greiddiol o’r ddau, yn union fel mae’r dalgylch wedi ein hysbrydoli ni dros y ddwy flynedd ddiwethaf wrth i ni gydweithio er mwyn sicrhau llwyddiant yr ŵyl eleni. Ydyn, maen nhw’n symbol cenedlaethol o’n hiaith a’n diwylliant, ond yr elfen leol sy’n rhoi ein stamp ni ar yr ŵyl ac ar y Gadair a’r Goron hardd sy’n cael eu cyflwyno i ni heno.
“Mae heno’n gyfle i ddiolch. Rydyn ni’n diolch i deulu’r Parch WJ Gruffydd (Elerydd) a Mrs Jane Gruffydd a phapur bro Y Cardi Bach am eu haelioni’n noddi’r Goron a’r wobr ariannol. Diolch hefyd i Elen a Dylan Bowen am eu gwaith hyfryd o gelfydd yn creu Coron fendigedig.
“Ac yna’r Gadair, sydd mor addas ar gyfer Eisteddfod y Garreg Las, gan gyfuno pren o goeden a fu’n tyfu ar dir y Parc, brethyn o Felin Tregwynt a’r garreg las, sy’n gymaint ran o bob un ohonom ni. Diolch o galon i Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Geraint a Siân James, perchnogion siop Awen Teifi, Aberteifi am eu haelioni. Rydw i wir yn gobeithio y bydd teilyngdod yn y ddwy gystadleuaeth bwysig yma eleni.
“Diolch hefyd i Gymdeithas Amaethyddol Sir Benfro, sy’n noddi seremoni’r Gadair a’r Goron yn ystod wythnos yr Eisteddfod eleni, am eu cefnogaeth. Roedden nhw’n un o’r mudiadau cyntaf i’n noddi ni eleni, ac i’n helpu ni i gychwyn ar y gwaith o godi arian er mwyn sicrhau llwyddiant yr ŵyl.
“Ac wrth ddychwelyd at y dathliadau sy’n cychwyn yma heno wrth i ni nodi 850 mlynedd ers cynnal yr Eisteddfod gyntaf, mae’n fraint arbennig i fod yn arwain y tîm sydd wedi gweithio mor galed dros y ddwy flynedd ddiwethaf mewn cyfnod mor allweddol yn hanes y sefydliad.
“Rwy’n sicr y bydd y miloedd o ymwelwyr ddaw atom i Lantwd ymhen ychydig wythnosau’n cael modd i fyw nid yn unig yn gweld Eisteddfod Genedlaethol sy’n ffynnu, ond gŵyl unigryw, sydd â chystadlaethau megis y Gadair a’r Goron yn galon iddi, yn gryfach a mwy perthnasol heddiw nag erioed.
Cynhelir seremoni’r Coroni ddydd Llun 3 Awst am 16.00, a seremoni’r Cadeirio ddydd Gwener 7 Awst am 16.00 yn y Pafiliwn.
Bydd modd gweld y Gadair a’r Goron mewn arddangosfa arbennig yng Nghastell Aberteifi tan ddiwedd Gorffennaf, pan fydd y ddwy’n cael eu cludo i faes Eisteddfod y Garreg Las.
Gellir prynu tocynnau ymlaen llawn drwy fynd i’r wefan, www.eisteddfod.cymru. Gellir hefyd brynu tocynnau wrth gyrraedd y Maes ar y dydd.
Mae mwy o wybodaeth am Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las a gynhelir yn Llantwd o 1-8 Awst ar gael yn eisteddfod.cymru.





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.