BYDD pump o unigolion ardal y Garreg Las yn cael eu hanrhydeddu gan dderbyn teitl Llywyddion Anrhydeddus yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Bob blwyddyn mae cyfle i’r pwyllgorau lleol enwebu unigolion sydd wedi cyfrannu at fywyd diwylliannol yr ardal a’r Gymraeg yn lleol. Yn ôl Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, “mae’n uchafbwynt blynyddol i dderbyn yr enwebiadau a’r cyfle i anrhydeddu’r bobl arbennig hyn sydd wedi rhoi o’u hamser yn ddiflino i fywyd diwylliannol eu hardal leol.
Wrth adlewyrchu ar lywyddion eleni dywedodd: "Heb y bobl yma, byddai'r ardal yn dipyn tlotach ei diwylliant.”
Ymhlith y pump mae Margaret Daniels sydd yn un o hoelion wyth y byd corawl lleol ers dychwelyd i’w hardal enedigol. Yn gyn-arweinydd Côr Pensiynwyr Aberteifi a’r Cylch, sefydlodd Gôr Merched Bro Nest yn 1992. Mae’n parhau i’w harwain ynghyd â Chôr Meibion Blaenporth. Yn wyneb cyfarwydd fel arweinydd nifer o gymanfaoedd canu lleol a thu hwnt, mae Margaret hefyd yn organydd Capel Blaenannerch.

Er ei fod yn enedigol o Sarn Bach, Pen Llŷn, mae Alun Ifans wedi ymgartrefu yn Sir Benfro ers ei ddyddiau yn y coleg. Bu’n brifathro cynradd Ysgol Casmael am dros dri degawd lle sefydlodd oriel gelf sydd yno hyd heddiw. Mae’r casgliad yn cynnwys gwaith Alun ei hun yn ogystal â rhoddion gan artistiaid adnabyddus fel Kyffin Williams ac Aneurin Jones. Yn awdur nifer o lyfrau, cyhoeddodd gyfrolau i ddysgwyr Cymraeg a bu’n gadeirydd ar Gymdeithas Waldo yn ei dyddiau cynnar.
Yn enedigol o ardal Aberteifi, mae Eddie Ladd yn dathlu deugain mlynedd ym myd y celfyddydau eleni. Gweithiodd gyda chwmnïau theatr arloesol fel Moving Being, Volcano a Brith Gof gan berfformio, ysgrifennu a chyfrannu cerddoriaeth. O 1989, datblygodd ei gwaith ei hun a pherfformio mewn theatrau a lleoliadau anarferol ledled y byd. Mae ei gwaith yn cyfuno dawns, lleferydd, cerddoriaeth a thechnoleg gan archwilio ei milltir sgwâr a’i chysylltiadau byd-eang.

Yn goreograffydd i gwmnïau fel Theatr Cymru ac Arad Goch, mae hi hefyd yn arwain prosiectau cymunedol. Bydd hefyd yn perfformio fel rhan o ddigwyddiadau i ddathlu 850 mlynedd o’r Eisteddfod eleni.
Daeth gyrfa rygbi Ifan Phillips i ben wedi damwain beic modur ddifrifol ym mis Rhagfyr 2021. Cyn hynny bu’n chwarae fel bachwr i’r Gweilch ac i dîm dan 20 Cymru. Ers colli ei goes, mae Ifan wedi dangos cryfder a phenderfyniad eithriadol drwy barhau i fod yn rhan o’r byd rygbi. Mae wedi gweithio fel sylwebydd ac arbenigwr rygbi ar y cyfryngau yn ogystal â hyfforddi yn ei glwb lleol yng Nghrymych.
Tristwch i ardal y Garreg Las a thu hwnt oedd colli’r Prifardd Eirwyn George ym mis Ebrill eleni. Ar wahân i gyfnodau fel myfyriwr aeddfed yng Ngholeg Harlech ac ym Mhrifysgol Aberystwyth, bu’n byw ac yn gweithio yn Sir Benfro ar hyd ei oes. Enillodd Goron Eisteddfodau Abertawe a'r Cylch yn 1982 a Llanelwedd yn 1983 gyda dwy gerdd wedi eu lleoli yn Sir Benfro.
Wedi cyfnod yn dysgu, treuliodd flynyddoedd fel Llyfrgellydd Diwylliannol. Cyhoeddodd nifer o lyfrau gan gynnwys ei farddoniaeth ei hun, llyfrau taith am ei fro a hiwmor Preseli, a golygodd flodeugerdd o gerddi teyrnged i Waldo. Fel rhan o’i waith ar y Pwyllgor Llên, bu’n casglu deunydd ar gyfer y gyfrol ‘Barddoniaeth Sir Benfro’ fydd yn cael ei lansio yn yr Eisteddfod eleni.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las yn Llantwd, gogledd Sir Benfro o 1-8 Awst eleni. Am ragor o wybodaeth eisteddfod.cymru.





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.