CYHOEDDWYD ddoe pwy yw’r pedwar sy’n cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las eleni. Trefnir y gystadleuaeth ar y cyd gan yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Y rheini a ddaeth i’r brig eleni oedd Jonathan Davies o Lwchwr ger Abertawe, Caroline Jones o Wynedd, Kierion Lloyd o ardal Wrecsam a Paige Morgan o’r UDA.
Cynhelir y rownd derfynol ar Faes yr Eisteddfod, ddydd Mercher 5 Awst eleni, a’r beirniaid fydd Karl Davies, Kevin Knox a Mirain Iwerydd.
Meddai’r beirniaid: “Roedd yn fraint ac yn bleser i gwrdd â’r holl siaradwyr newydd oedd wedi ymgeisio ar gyfer Gwobr Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod y Garreg Las 2026. Mae gyda nhw straeon gwych i’w rhannu, a phob un wedi dysgu Cymraeg i safon ardderchog. Maen nhw wedi cofleidio’r Gymraeg ac wedi ymroi i ddiwylliant Cymru.
“Daeth pedwar i’r brig – Paige, Jonathan, Kierion a Caroline. Maen nhw’n bobl arbennig – yn llawn brwdfrydedd ac angerdd dros y Gymraeg, yn defnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau pob dydd ac yn cefnogi eraill i fwynhau’r iaith. Llongyfarchiadau mawr iddynt, a phob dymuniad da i’n holl gystadleuwyr.”
A phwy felly yw’r pedwar? Dyma ychydig o’u hanes a’u taith gyda’r Gymraeg dros y blynyddoedd diwethaf.

Cychwynnodd Jonathan Davies, o Lwchwr ger Abertawe, ddysgu Cymraeg er mwyn ailgysylltu â’i dreftadaeth a’i hunaniaeth ar ôl byw yn Llundain. Astudiodd Gerddoriaeth yno, gan gwblhau gradd a gradd meistr cyn hyfforddi fel athro drwy gwrs TAR. Yn 2020 dechreuodd ddysgu Cymraeg, gan wneud cynnydd cyflym a dod yn siaradwr Cymraeg hyderus. Trosglwyddodd ei sgiliau fel athro a chyfathrebwr yn naturiol i’w iaith newydd.
Aeth ymlaen i ddechrau PhD ym maes Ieithyddiaeth ac Addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, gan ganolbwyntio ar hygyrchedd mewn addysg. Mae’n hwyluso grŵp dysgwyr ifanc, yn dysgu ysgrifennu creadigol, ac yn sylfaenydd podlediad Ymchwil y Gweilch. Mae hefyd yn rhan o dîm yn datblygu offeryn dwyieithog i asesu hygyrchedd testun. Mae’n ymrwymedig i gefnogi dysgwyr a chryfhau’r Gymraeg mewn addysg a chymunedau.
Daw Caroline Jones o Lundain yn wreiddiol, a daeth yn ymwybodol o’r Gymraeg pan gyfarfu â’i gŵr ugain mlynedd yn ôl. Yn 2004 symudodd i ogledd Cymru, lle dechreuodd ddysgu’r iaith wrth astudio ar gyfer MSc a doethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor. Bellach mae’n Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol ac yn Bennaeth Adran ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae ei chydweithwyr yn ei chanmol am ei hymroddiad i hyrwyddo’r Gymraeg yn y gweithle, ac mae’n cynnig gwasanaethau dwyieithog i gleifion, yn enwedig plant a phobl ifanc.
Mae ei phlant yn mynychu ysgol Gymraeg, ac mae hi’n parhau i ddatblygu ei sgiliau ar lefel Uwch. Yn 2026 enillodd deitl Dysgwr y Flwyddyn lefel Canolradd/ Uwch Betsi Cadwaladr. Mae Caroline yn falch o’r Gymraeg, gan ei bod wedi agor drysau i brofiadau a safbwyntiau newydd, ac mae bellach yn llysgennad i annog eraill i’w defnyddio.

Cafodd Kierion Lloyd ei eni yng Nghymru i deulu di-gymraeg, a threuliodd ei blentyndod yn symud yn aml oherwydd gwaith ei dad yn y fyddin. O ganlyniad, ni chafodd gyfle i ddysgu Cymraeg yn ifanc. Tra roedd yn byw yn Seland Newydd, teimlai siom nad oedd yn gallu siarad yr iaith. Yn 2018, dechreuodd ddysgu Cymraeg mewn dosbarth nos yng Ngholeg Cambria yn Wrecsam, ac mae’n parhau i ddatblygu ei sgiliau.
Mae’r Gymraeg wedi cryfhau ei gysylltiad â diwylliant a hanes Cymru, ac wedi magu hyder ynddo. Mae ganddo ddiddordeb mawr mewn cerddoriaeth Gymraeg, ac mae’n mynychu gigs ac Eisteddfodau’n rheolaidd. Mae hefyd yn cyfrannu at wefan geiriau caneuon, gan helpu i wneud cynnwys Cymraeg yn fwy hygyrch, ac mae’n benderfynol o weld yr iaith yn ffynnu.

Pan oedd yn ifanc, breuddwydiai Paige Morgan am ysgrifennu, ond rhoddodd y gorau i’r syniad yn ei harddegau. Yn ddiweddarach, ar ôl dechrau dysgu Cymraeg, daeth y freuddwyd honno’n fyw eto mewn ffordd annisgwyl. Yn 2024 cafodd gyfle i ddysgu cynganeddu, ac fe ffynnodd drwy fod yn barod i wneud camgymeriadau a dysgu ohonynt
Mae bellach yn rhan o Gynllun Pencerdd Llenyddiaeth Cymru a Barddas, sef y fenyw Americanaidd gyntaf i wneud hynny. Yn 2025 dechreuodd ysgrifennu erthyglau i Lingo360 ac wedyn i Golwg, gan ganolbwyntio ar wleidyddiaeth Americanaidd. Mae hefyd yn ysgrifennu straeon byrion sydd wedi ennill cystadlaethau. Er ei bod yn byw yn America, mae’n cyfrannu at y Gymraeg ac yn benderfynol o ysbrydoli eraill drwy’r iaith.
Am ragor o wybodaeth am Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las, ewch i www.eisteddfod.cymru, ac am fwy am waith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ewch i www.dysgucymraeg.cymru.





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.