MAE dyn ifanc yn dweud iddo ddod yn agos at niweidio ei hun â morthwyl ar ôl cael ei ddylanwadu gan ddylanwadwyr ar-lein.
Bydd dylanwad y manosffer ar agweddau dynion ifanc Cymru tuag at fenywod, perthnasoedd a’u bywydau eu hunain yn cael ei archwilio gan gyn-Miss Cymru Sara Manchipp mewn dwy raglen arbennig ar S4C.
Bydd y gyfres Sara Manchipp: I Mewn i’r Manosphere i’w gweld ar blatfformau digidol S4C Clic a BBC iPlayer ac ar YouTube o 18fed Mehefin.
Un o’r bobl ifanc sydd yn siarad gyda Sara yw Abishek sydd yn sôn yn onest am ei frwydrau iechyd meddwl fel person ifanc, gan ddisgrifio sut y daeth yn agos at niweidio ei hun yn ystod cyfnod arbennig o anodd yn ei fywyd oherwydd dylanwad ‘looksmaxxing’ ble mae wyneb yn cael ei feirniadu ar ei brydferthwch.
Meddai Abishek: “Pan oeddwn i'n 14 oed roeddwn i'n sefyll wrth y drych yn yr ystafell ymolchi am 2 y bore gyda morthwyl yn fy llaw a dagrau yn llifo lawr fy wyneb. Dechreuais feddwl am bopeth a phenderfynais ostwng y morthwyl...”
Mae Abishek yn rhan o grŵp o ddynion ifanc sy'n galw eu hunain yn 'Dynion Yfory', ochr yn ochr â Josh Sargent a Chase Campbell sy'n aelod o Senedd Ieuenctid Cymru dros Flaenau Gwent.
Meddai Chase: "Mae'r broblem yng Nghymru yn gallu bod yn eithaf unigryw, yn enwedig gyda'r ardal rydw i'n dod ohoni yn y Cymoedd - ardal sydd wedi profi amddifadedd economaidd trwm iawn dros y 40+ mlynedd diwethaf bellach. Rwy'n credu bod y materion sy'n gyrru dynion tuag at y diwylliant dynion gwenwynig hwn a'r materion sy'n mynd ymlaen o hynny yn gwaethygu yma. Fel diffyg mannau cymdeithasol, diffyg modelau rôl, dim math o ragolygon gyrfa go iawn – mae’n gwneud i bobl droi at lefydd mwy anobeithiol ar-lein."
Sara Manchipp sydd yn cyflwyno’r gyfres. Sara oedd Miss Cymru yn 2011 ac mae’n siarad am ei phrofiadau o gael ei stelcian a derbyn bygythiadau ffiaidd gan ddyn gafodd ei ddedfrydu yn ddiweddarach am geisio lladd rhywun arall.
Mae Sara yn sgwrsio gyda Phrifysgol Abertawe am ganlyniadau arolwg arbennig drefnwyd ar y cyd rhwng S4C, Dr Andrew Thomas a Dr Joe Whittaker ym Mhrifysgol Abertawe, a Cholegau Cymru. Ynddi cawn gipolwg unigryw ar sut mae bechgyn a merched 16–20 oed yn gweld ei gilydd, eu profiadau o ddiwylliant ar-lein, a’r effaith y gall cynnwys manosffer ei gael ar eu hagweddau a’u llesiant.
A hithau bellach yn fam i fachgen bach bedair blwydd oed, mae Sara’n cwestiynu’r byd y bydd ei mab yn tyfu fyny ynddo.
Meddai Sara: “Tomos (fy mab) yw goleuni fy mywyd. Mae’r profiad ges i o stelciwr wedi gwneud i fi boeni lot yn fwy am y byd mae Tomos yn mynd i fyw ynddo pan yn tyfu lan. Ble gafodd [y stelciwr] y syniad mai’r unig ffordd i gael sylw menyw yw trwy hala ofn arni? Faint o ddynion eraill sydd gyda’r un meddylfryd ag e, a beth allwn ni wenud i stopio hyn?”
Prifysgol Abertawe yw cartref yr ymchwilwyr mwyaf blaenllaw i’r manosffer yn y byd. Mae’r brifysgol wedi creu adroddiad diweddar yn edrych ar un grŵp penodol o fewn i’r manosffer – yr incels – involuntary celibate, sef dynion ifanc yn bennaf, sydd yn beio ffeministiaeth am roi gormod o rym i fenywod, yn enwedig pan y daw at ddetio neu at ddewis partner.
Dau o’r brifysgol fu’n rhan o’r ymchwil yw Dr Andrew Thomas a Dr Joe Whittaker. Maent wedi cynnal arolwg mwyaf o’i bath am incels. Roedd yr astudiaeth yn canolbwyntio ar dri prif ffactor – ceisio deall eu profiadau a chymryd i ystyriaeth eu anian seicolegol gan gynnwys eu iechyd meddwl a’u gwahaniaethau niwrolegol; ceisio deall sut mae’n nhw’n ymateb i syniadaeth incel; a cheisio deall sut oedden nhw yn cymdeithasu ar lein.
Meddai Dr Whittaker: “Mae dynion ifanc dig sydd ddim yn cael rhyw, wastad wedi bod - yn hynny o beth dos dim byd yn newydd. Hanner can mlynedd yn ôl doedd hi ddim yn hawdd dod o hyd i rywun o'r un perswâd ideolegol â chi os oeddech chi'n gwyro at yr eithafol. Yr hyn mae'r rhyngrwyd wedi newid yn sylfaenol yw eich bod yn gallu dod o hyd i hyn, ac mae hynny yn arwyddocaol.”
Er mwyn deall mwy a siarad gyda bechgyn a merched Cymru yn uniongyrchol, lansiwyd holiadur gydag arbenigwyr Prifysgol Abertawe a Colegau Cymru – elusen sy’n cynrychioli colegau addysg bellach ledled Cymru.
Dyma'r arolwg cyntaf yn y maes ble gellid ceisio deall profiadau dynion ifanc a menywod ifanc o oed 16 i 20, gan edrych ar eu teimladau tuag at ei gilydd, eu profiadau yn y math hwn o amgylchedd manosffer ar-lein, gofyn cwestiynau am ddrwg deimlad tuag at fenywod, ac ar ochr y menywod yn gofyn a ydyn nhw o bosibl wedi dioddef a hefyd yn gofyn cwestiynau am dderbyn pornograffi, ac am eu hiechyd meddwl, er mwyn ceisio deall a oes perthynas rhwng y pethau hyn.
Mae Sara yn sgwrsio gyda Chase sydd yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, gan ei holi sut y gall Llywodraeth Cymru ddod i’r afael â’r dylanwadu sydd yn digwydd ar-lein.
Meddai Chase: “Mae clybiau cymdeithasol a chanolfannau cymunedol ieuenctid wedi colli eu cyllid, mae dros fil wedi cau dros y 15 mlynedd diwethaf, ond nid oes unrhyw ymdrech i ddod â nhw yn ôl ac mae effaith colli’r lleoedd hyn yn ffactor mawr sy'n cyfrannu at y cynnydd mewn problemau iechyd meddwl nawr.”
Gydag ymchwil arloesol a lleisiau pobl ifanc wrth wraidd y stori, mae’r gyfres yn cynnig cipolwg pwerus ar ffenomen sy’n siapio bywydau yng Nghymru heddiw.
Sara Manchipp: I Mewn i’r Manosphere
Mehefin 18
Ar alw: S4C Clic a BBC iPlayer a YouTube
Cynhyrchiad Jet TV ar gyfer S4C





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.