BYDD Y Llais yn ôl am drydedd gyfres ar S4C yn 2027.
Daw’r cyhoeddiad ar drothwy Tafwyl, un o wyliau cerddoriaeth mwyaf Cymru.
Y Llais yw’r fersiwn Gymraeg o'r gyfres deledu fyd-eang boblogaidd, The Voice, fformat dan berchnogaeth ITV Studios ac sy’n cael ei ddarlledu mewn 77 o diriogaethau.
Cafodd Y Llais ei darlledu ar S4C am y tro cyntaf yn 2025, wedi ei gynhyrchu gan Boom Cymru, rhan o ITV Studios.
Bydd y cadeiriau coch enwog yn troelli unwaith eto’r flwyddyn nesaf wrth i ddegau yn fwy o gystadleuwyr ar hyd a lled y wlad wneud eu gorau glas i blesio’r hyfforddwyr.
Creodd y gyfres ddiweddaraf hanes pan gafodd Carrie Sauce ei henwi fel yr enillydd – yr artist drag cyntaf i ennill y gyfres unrhyw le yn y byd.
Ond pwy fydd yn dilyn yn olion traed Carrie ac enillydd y gyfres gyntaf, Rose Datta?
Mae ceisiadau bellach ar agor i gystadlu yn y gyfres nesaf gydag unigolion neu ddeuawdau yn cael eu hannog i ymgeisio.
Mae Y Llais yn gyfres sydd yn arbennig o boblogaidd ymhlith cynulleidfaoedd iau, dysgwyr a siaradwyr newydd, gyda nifer o’r cystadleuwyr hefyd yn siaradwyr Cymraeg newydd.
Roedd yr ail gyfres wedi perfformio'n gryf ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda'r cynnwys yn denu 9.6 miliwn o argraffiadau.
Dywedodd Llion Iwan, Prif Swyddog Cynnwys S4C: “Dwi wrth fy modd yn clywed y cystadleuwyr yn swyno a syfrdanu gyda’u lleisiau bendigedig bob blwyddyn ac mae’n bleser cael cyhoeddi bod Y Llais yn ôl am gyfres arall.
“Mae’n dda gweld sut mae’r gyfres wedi llwyddo apelio at gynulleidfaoedd iau a siaradwyr newydd a bod gymaint o’r gwylio yn digwydd ar ein platfformau digidol.
“Dwi’n edrych ymlaen i weld pwy fydd y nesaf i wynebu’r cadeiriau coch – pwy a ŵyr, efallai mai chi fydd wrthi.”
Bydd mwy o fanylion am Y Llais Cyfres 3 yn cael eu cyhoeddi'n fuan.





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.