MAE cyflwynydd tywydd S4C Tanwen Cray yn gobeithio bydd cyfres newydd yn codi’r tabŵ am fod yn riant ifanc.

Bydd y gyfres Tanwen & Ollie yn dilyn Tanwen a’i phartner, pêl-droediwr Abertawe, Ollie Cooper yn yr wythnosau sy’n arwain at enedigaeth eu merch.

Cafodd Neli Meillionen Awen Cooper ei geni ddiwedd mis Ionawr.

Hefyd yn cymryd rhan yn y gyfres mae rhieni Tanwen – cyflwynydd Heno, Angharad Mair, a’r dyn camera Joni Cray.

Bydd pennod gyntaf Tanwen & Ollie ar gael ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Hansh, S4C Clic, BBC iPlayer ac YouTube ar ddydd Iau 28 Mawrth.

Mae Tanwen yn gobeithio bydd y gyfres yn dangos yn onest sut brofiad yw bod yn feichiog yn ifanc, ar ôl wynebu beirniadaeth.

Meddai Tanwen: “Mae lot o bobl eisiau rhoi eu barn nhw ar ddisgwyl babi a bod yn fam ifanc. Ac mae pawb yn sôn am pa mor anhygoel mae beichiogrwydd yn gallu bod – bod e’n hawdd a’r pregnancy glow – ond dim fel yna mae e ‘di bod i fi o gwbl. Fi ‘di cael diwrnodau lle fi’n teimlo’n isel, a fi ‘di cael diwrnodau lle fi’n teimlo yn rili dda yn fi fy hun hefyd."

“Mae disgwyliad mewn cymdeithas bod rhywun yn gweithio, gweithio, gweithio ac wedyn yn cael plant. Ac i fi, roedd e’n rywbeth oedd yn y dyfodol – oni ddim yn gallu gweld pryd fyswn i’n cael plant. Oherwydd hyn, ar y dechrau, oni’n teimlo fel ‘that’s the end of my career’ – ond dyw e ddim yn wir o gwbl! Falle bod e’n golygu bach o brêc, ond dyw e sicr ddim yn meddwl bod dim gyrfa yn mynd i fod ‘da fi.”

“Mae’r rhaglen yn dangos sut mae hi i fod yn feichiog yn ifanc – the highs and the lows – a sut mae bywyd yn Abertawe i ni gyda Ollie yn chwarae pêl-droed a fi’n cyflwyno’r tywydd.”

Dywedodd Ollie: “Roedd e’n rili sbesial i gael ffilmio’r cyfnod cyffrous yma ym mywydau fi a Tanwen.

“Roedd e’n brofiad gwahanol i fi - dwi wedi arfer efo camerâu yn dilyn fi ar y cae pêl-droed, ond ddim adref! Ond gobeithio bydd y gyfres yn rhoi cipolwg ar sut mae ein bywydau ni o ddydd i dydd wrth i ni ymdopi gyda’r holl newidiadau sydd wedi bod.

“Fydd e’n rywbeth arbennig iawn i gael edrych yn ôl arno a cofio sut beth oedd yr wythnosau hynny cyn i Neli gyrraedd y byd.”

Erbyn hyn, mae’r cwpwl wedi addasu i fywyd fel rhieni newydd.

“Ni’n setlo’n iawn!” meddai Tanwen. “Mae sicr yn haws erbyn hyn nawr bod hi’n 7 wythnos oed. Mae hi wedi dechrau gwenu ac mae mwy o bersonoliaeth gyda hi. Oedd e lot anoddach yn y pythefnos cyntaf ond erbyn hyn mae bach mwy o routine.

“Bydd hwn yn rhywbeth rili neis i ni’n dau edrych yn ôl arno. Ar ôl gwylio’r bennod gyntaf, fi methu credu shwt oni’n edrych gyda bwmp – mae e fel bo fi jest wedi anghofio yn llwyr! Felly mae hwnna’n rili neis i edrych yn ôl arno.”

“Fi ddim yn gallu dychmygu fy mywyd i heb Neli – mae hi jest yn rhan o’n bywydau ni nawr sydd yn rili, rili neis.”

A’i thad, Joni Cray, sydd wedi ffilmio’r gyfres ac i Tanwen, roedd hynny’n arbennig iawn: “Roedd e’n golygu bod e’n gallu bod yn rhan o’r rhaglen trwy ein ffilmio ni yn lle bod o flaen y camera – dyw Dad ddim yn hoffi bod y flaen y camera!”

Er fod y gyfres yn croniclo cyfnod arbennig i’r teulu cyfan, roedd y cyfnod yma yn un anodd i Angharad Mair: “Un peth fyswn i byth wedi rhagweld yw pythefnos ar ôl i Neli gyrraedd y byd, ges i lawdriniaeth fawr ar y stumog.

“Felly ers hynny, mae e wedi bod yn eithaf anodd i fi bod yr help o ni’n bwriadu rhoi yn y cyfnod cynnar yna ddim yn gallu digwydd...Mae jest yn dangos shwt mae bywyd yn gallu taro rhywun yn annisgwyl iawn.

“Ond roedd meddwl am gael dod mas o’r ysbyty a dechrau rhoi cwtshys i Neli yn cadw fi fynd!”

Er hyn roedd Angharad yn teimlo’n gyfforddus iawn o flaen y camera, ychydig yn rhy gyfforddus weithiau:

“Ar adegau, pob tro oni’n gweld camera – achos fi ‘di arfer cyflwyno – roedd tueddiad gyda fi i edrych ar y camera ac eisiau esbonio popeth! Oni’n gorfod meddwl mewn ffordd wahanol am y camera felly roedd hynny’n ddifyr.”

“Mae’n hyfryd i gael bod yn fam-gu!” Ychwanega Angharad, “mae’n gyfnod hapus iawn – wrth gwrs, mae rhywun yn poeni, fel mam, am y cyfnod cyn geni ond wedyn unwaith mae’r babi bach yn dod, mae’n hyfryd! Ac mae Neli yn neud yn grêt.”

Bydd Tanwen & Ollie hefyd i’w gweld ar S4C yn yr haf.