TAFWYL yw un o wyliau cerddoriaeth, diwylliannol a Chymraeg mwyaf Cymru, a bydd modd gweld llwyth o'r ŵyl o Barc Bute, Caerdydd ar S4C.

Bydd yr arlwy drydanol yn cael ei darlledu ar nos Sadwrn, 14 Mehefin ac ar y nos Sul, 15 o Fehefin.

Gyda pherfformiadau byw, cyfweliadau gefn llwyfan, a chynnwys digidol ecsgliwsif, gall cynulleidfaoedd fwynhau’r profiad anhygoel mewn sawl lle.

Mae uchafbwyntiau’r ŵyl yn cynnwys:

  • Perfformiadau byw gan nifer o fandiau prysuraf Cymru sy’n cynnwys Diffiniad, Aleighcia Scott, Morgan Elwy, Rose Datta & Taran, Fleur De Lys, Bwncath, Tara Bandito, a Dadleoli.
  • Mynediad gefn llwyfan gyda’r DJ poblogaidd Huw Stephens, y gantores Tara Bethan, a’r cyflwynydd Lloyd Lewis.
  • Rhaglenni Uchafbwyntiau ymlaen ar y ddwy noson am 8pm ar S4C.
  • Mwy o ddarlledu ar blatfformau digidol S4C Clic ac YouTube.

Meddai Huw Stephens: “Mae'n hyfryd cael bod nol yn Tafwyl, a dod â'r ŵyl arbennig yma i bawb adre ar S4C.”

Dyma fydd y bumed flwyddyn yn olynol i Huw gyflwyno o’r ŵyl, meddai: Mae Tafwyl wedi creu cynnwrf mawr yn y brifddinas ers y dechrau, ac mae wedi newid yn bositif y syniad o'r iaith Gymraeg i gymaint o bobl sy'n dod iddi.

Aleighcia Scott
Aleighcia Scott (S4C)

“Mae'r gerddoriaeth wastad yn amrywiol a diddorol, gyda Diffiniad, Aleighcia Scott ac wrth gwrs Rose Datta a'i band Taran, yn chware eleni. Ac mae darlledu yn fyw o Gaerdydd gyda'r criw wir yn gyffrous. Welwn i chi yna!”

Meddai Aleighcia Scott, y seren reggae gafodd y rhif 1 cyntaf yn yr iaith Gymraeg yn siartiau Reggae iTunes: “Mae 2025 wedi bod fel corwynt i mi – a dwi wedi caru pob eiliad ohono! O fod yn hyfforddwr ar Y Llais, i gael rhif un gyntaf erioed yn yr iaith Gymraeg yn y siartiau Reggae Prydeinig, a nawr dwi’n canu yn Tafwyl – dwi ddim yn sicr sut bydd gwella ar hyn!”

Cyhoeddwyd yn Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr y bydd ail gyfres o Y Llais ar S4C yn 2026. Mae ceisiadau ar agor a gellid ymgeisio trwy ymweld: Y Llais | S4C

Gallwch weld bandiau eraill yn chwarae’n fyw ar S4C Clic ac YouTube S4C ar brynhawn Sadwrn a Sul gan gynnwys Bwncath, Tara Bandito a Dadleoli.

Tafwyl Sadwrn, 14 Mehefin

14:50-15:30 Dom, Lloyd & Don ar YouTube a Clic

16:00-16:40 Tara Bandito ar YouTube a Clic

17:50-18:30 Dadleoli ar YouTube a Clic

20:00-21:00 Uchafbwyntiau Llinol + Ffrydio byw Clic, iplayer ac YouTube

21:00-22:00 Diffiniad Llinol + Ffrydio byw Clic, iplayer ac YouTube

Tafwyl Sul, 15 Mehefin

16:35-17:10 Taran Ffrydio ar YouTube a Clic

17:10-18:00 Bwncath ar YouTube a Clic

18:30-19:10 Gwibdaith Hen Fran ar YouTube a Clic

20:00-21:00 Uchafbwyntiau Llinol + Ffrydio byw Clic, iplayer ac YouTube

21:00-22:00 Fleur De Lys Llinol + Ffrydio byw Clic, iplayer ac YouTube

Ar alw: S4C Clic, iPlayer ac YouTubeCynhyrchiad Orchard ar gyfer S4C