MAE cyfres newydd Hansh (sianel ddigidol S4C i bobl ifanc), Ar Led, yn dinoethi rhai o'r pynciau poethaf ym myd rhyw a rhywioldeb.

Bydd y gyfres gyfan ar gael i wylio fel bocset ar S4C Clic, BBC iPlayer a sianel YouTube Hansh o ddydd Gwener, 6 Mehefin, ymlaen.

Gyda sgyrsiau di-flewyn-ar-dafod, sgetsys ffraeth a straeon personol, mae’r gyfres hon yn saff o ddiddanu tra’n addysgu gwylwyr am bopeth o berthnasau iach i aflonyddu rhywiol, ac o deganau rhyw i secstio.

“Dwi’n meddwl ei bod hi’n rhaglen bwysig iawn achos mae ’na lot o dabŵ o gwmpas y pethau yma o hyd,” meddai un o ddeuawd gyflwyno’r rhaglen, Miriam Isaac. “Ond os ’da ni’n cael trafodaeth agored, heb unrhyw gywilydd na beirniadaeth, dwi’n meddwl bod hwnna’n beth da.”

Yn ymuno â’r actores a’r gantores ar y soffa mae’r digrifwr Carwyn Blayney. Ac yn cadw cwmni i’r ddau gydol y gyfres, gan rannu cyngor arbenigol mae Christian Webb, arbenigwr iechyd rhywiol a lles gydag elusen Brook, a Ffraid Gwenllian, meddyg iau sydd hefyd yn gyfrifol am ‘Secs’ – cyfrif addysg rhyw iaith Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Rydan ni isio bod yn ffynhonnell mae pobl yn gallu dibynnu arni a’i thrystio, achos mae yna gymaint o bethau ar-lein sydd ddim yn wir y dyddiau hyn,” ychwanega Miriam, sydd yn trafod ei phrofiad personol ei hun o ddod allan yn ddeurywiol ar y rhaglen. “Mae ganddo ni arbenigwyr ffantastig ac mae’n grêt eu cael nhw yna i roi cyngor ac i rannu gwybodaeth berthnasol.”

Yn ôl Christian Webb, mae cyfresi fel Ar Led yn hollbwysig er mwyn rhoi gwybodaeth ffeithiol gywir, ddibynadwy a di-feirniadaeth i bobl ifanc ledled Cymru, a hynny drwy'r Gymraeg.

Meddai: “Rydyn ni'n gwybod o'n gwaith bod llawer iawn o bobl ifanc heddiw ddim yn derbyn gwybodaeth safonol ar themâu megis perthnasau iach, cydsyniad a phornograffi. Ac oherwydd hynny, er bod llawer o bobl ifanc yn wybodus iawn, rydyn ni hefyd yn gweld cam-wybodaeth, diffyg dealltwriaeth, ac yn anffodus, rhagfarn ac anghyfiawnder wrth i ni drafod pynciau megis rhyw a iechyd rhyw.

“Dyna pam bod rhaglenni fel Ar Led yn hollbwysig, gan fod yn ffynhonnell ddibynadwy i bobl archwilio themâu rhyw a iechyd rhyw mewn ffordd sensitif, hwylus, ffeithiol ac yn hollbwysig, heb feirniadaeth, a hynny yn eu hiaith eu hunain.”

Atega Christian, sy’n Gydlynydd Addysg a Llesiant yng Nghymru gydag elusen Brook: “Mae gan bawb yr hawl i dderbyn parch, empathi, a charedigrwydd mewn perthynas, a dwi'n falch bod Ar Led yn adlewyrchu amrywiaeth o brofiadau a hunaniaethau i chwalu'r cam wybodaeth a'r codi bwganod sydd i’w weld ar ein sgriniau'n ddyddiol.”

Yn ymuno â’r criw ar y soffa yn y bennod gyntaf mae Tom a ddaw’n wreiddiol o Drefdraeth yn Sir Benfro, gan siarad yn agored am ei daith ef gyda’i hunaniaeth rhyw a rhywedd.

Meddai: “We’n i wedi dod mas yn hoyw pan oeddwn i’n 14, ag es i Ysgol y Preseli felly...rygbi, Welsh, Waldo Williams, you know! So bod yn hoyw...no. Felly roedd e’n eithaf anodd; nes i golli lot o ffrindiau a phethau fel ’na, ond nawr dwi’n byw yn Llundain a jest yn rili cyfforddus gyda hunaniaeth rhyw fi.”

Gydol y gyfres bydd unigolion lu o bob cwr o Gymru a thu hwnt yn ymuno â’r criw ar y soffa i rannu eu profiadau personol, gan drafod ystod eang o bynciau gan gynnwys y corff, atal genhedlu ac orgasms.

“Nes i ddysgu gymaint ar y rhaglen!” meddai Miriam Isaac. “Ac rydan ni wastad yn dysgu tydan? Byddai cyfres fel hyn wedi bod yn fuddiol iawn i fi pan oeddwn i’n iau. Dwi’n meddwl fod o’n bwysig, yn enwedig pan ’da ni yn yr oedran yna, i ddysgu am y pethau yma, yn enwedig parch, a consent – cydsyniad – achos mae’n hanfodol.

“’Da ni gyd reit barchus yng Nghymru yn dydyn! Ond achos bod ni’n siarad yn eithaf agored am y pynciau hyn ar y rhaglen, ac yn eithaf ymlaciol, dwi’n meddwl fod o’n ffordd hygyrch o gael pobl i wylio ac i fwynhau. Mae’n lot o hwyl ac yn hybu’r ffaith y dylen ni fod yn trafod llawer mwy ar y pynciau hyn.”