YR wythnos hon cyhoeddir Plesera (Y Lolfa) gan Elgan Rhys.Yn “saga ysgubol” ac yn “fuddugoliaeth dawel”, fel y disgrifiwyd hi gan Mike Parker, mae’r nofel gignoeth, bersonol ac agos-atoch hon yn bortread eofn o berthnasau cwiar, sydd wedi’i hysbrydoli gan brofiad byw’r awdur o dyfu i fyny ym Mhen Llŷn rhwng y 1990au a’r 2010au.

Ceir canmoliaeth frwd hefyd gan yr awdur Gareth Evans-Jones, sy’n disgrifio’r nofel fel “taith ddirdynnol ac amrwd”.

Mae Siwan M. Rosser yn dweud ei bod hi’n “nofel onest ac annwyl a fydd yn aros yn hir yn y cof”.

Meddai Elgan Rhys: “Er nad yw trywydd y cymeriadau trwy’r nofel yn cyfateb i ‘fywyd go iawn’, mae man cychwyn y naratif, a’r sbardun i’w sgwennu, yn dod o un foment dyngedfennol yn fy mywyd, pan gafodd John wahoddiad gan Mam i ddod i’r tŷ i chwarae am y tro cyntaf. Dwi’n teimlo’n ddyledus i Mam mewn cannoedd o ffyrdd bob dydd.”

Mae Plesera yn nofel mewn tair rhan, ac mae’n olrhain cyfeillgarwch dau fachgen sy’n dod yn ffrindiau pan maent yn ddeg oed.

Mewn tri chyfnod ym mywydau Adam a Dewi – cipolwg ar eu plentyndod yn 1999, dod i oed yn 2007 a chyfnod fel oedolion yn 2019 – maent yn agosáu ac yn pellhau, yn profi cymhlethdodau dod i oed, ac yn darganfod sut i feithrin eu pleserau a’u poenau eu hunain.

Fe’i disgrifir gan Buddug Watcyn Roberts fel “nofel sy’n gafael yn dynn yn dy law, yn mynd â ti am dro hyd lonydd geirwon ac yn cofleidio holl letchwithdod a chymhlethdod galar a chariad”.

Gyda chefndir fel dramodydd, ac fel awdur a chydlynydd y prosiect arobryn amlgyfrannog Y Pump (2021) – cyfres o bum nofel ar gyfer oedolion ifanc – mae Plesera yn ehangu ar themâu dwy ddrama gan Elgan Rhys, sef Woof (2019) a Dy Enw Marw (2014).

“Y prif air sy’n dod i’r meddwl wrth ystyried y broses sgwennu ydy ‘catharsis’,” meddai Elgan Rhys

“Mae wedi bod yn broses o gael fy herio i edrych yn ddwfn i mewn i fi fy hun a chanfod fy llais fel nofelydd.

“Dwi wedi gweithio ar nifer o brosiectau cydweithredol yn y gorffennol, yn hwyluso datblygiad lleisiau newydd, gan gynnwys Y Pump.

“Mae elfennau cydweithredol i Plesera, ond roedd hon yn broses lot anoddach, oedd yn gofyn i fi dynnu’n ddwfn ar fy mreuder personol.

“Dyma stori sydd wastad wedi bod yng nghefn fy meddwl, stori sy’n crisialu lot o’r hyn sy’n bwysig i fi, fel artist, fel person, fel mab, fel ffrind.”

Bydd Plesera yn cael ei lansio’n swyddogol am 7 o’r gloch, nos Iau, yr 2ail o Orffennaf ym Mhalas Print, Caernarfon, gyda Manon Steffan Ros yn holi Elgan Rhys. Hefyd, 7 o’r gloch, nos Wener, y 3ydd o Orffennaf yn Queer Emporium, Caerdydd, gydag Elen Ifan yn holi’r awdur. Croeso mawr i bawb.

Mae Plesera gan Elgan Rhys ar gael 23 Mehefin (£10.99, Y Lolfa).