Mae Tafwyl – un o wyliau cerddorol a diwylliannol mwyaf Cymru – yn dathlu 20 mlynedd ers ei chychwyn, a bydd S4C yno i ddal yr holl gyffro wrth ddarlledu’n fyw o Gastell Caerdydd, lleoliad Tafwyl yn 2026.

Bydd y DJ, cyflwynydd BBC Radio Cymru a brodor o Gaerdydd, Huw Stephens, ynghyd â’r gantores a’r cyflwynydd Tara Bethan yn dod ag uchafbwyntiau Tafwyl i gynulleidfaoedd ledled y wlad, a bydd y cyflwynydd a’r artist Lloyd Lewis yn crwydro’r maes.

Bydd uchafbwyntiau o ddydd Sadwrn a dydd Sul i’w gweld ar S4C ac ar blatfformau digidol S4C – Clic a BBC iPlayer, am 8yh ar y ddwy noson, 20 a 21 Mehefin. Bydd S4C yn darlledu perfformiad byw gan y band Candelas o’r prif lwyfan am 9yh nos Sadwrn, cyn dangos cyngerdd Parti Dathlu 20 Tafwyl yn fyw o 9yh nos Sul.Bydd y gyngerdd unigryw hwn sydd wedi'i guradu gan y cerddor a'r cyfansoddwr Mei Gwynedd, yn cloi'r nos Sul. Bydd y noson yn dod â rhai o brif artistiaid Cymru ynghyd i berfformio taith gerddorol arbennig drwy Gaerdydd a'i chyfraniad i gerddoriaeth Gymraeg dros y degawdau.

Bydd y gyngerdd yn cynnwys dehongliadau newydd o ganeuon sydd wedi'u hysbrydoli gan y brifddinas, ynghyd â thraciau eiconig gan artistiaid sydd wedi siapio sîn gerddorol Cymru, gan gynnwys Geraint Jarman, Hanner Pei a Catatonia.

Meddai Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C: Mae Tafwyl wedi hen ennill ei lle yng nghalendr diwylliannol Cymru ac mae S4C yn falch i’w chefnogi unwaith eto eleni. Mae wastad yn wych i weld sut mae Tafwyl yn llwyddo i ddenu miloedd yn y brifddinas at adloniant a cherddoriaeth Gymraeg, ac i’r rhai na fydd yno, bydd S4C yn dod â’r uchafbwyntiau a’r cyngherddau i’r sgrin.

“Rydym yn ffodus iawn i gael Huw, Tara a Lloyd yn cyflwyno – byddwn mewn dwylo saff a phrofiadol iawn. Mae cyrraedd yr 20fed blwyddyn yn dipyn o gamp ac yn destament i waith caled Menter Caerdydd. Pob hwyl ar gyfer yr ugain mlynedd nesaf.”

Meddai Heulyn Rees, Prif Weithredwr Menter Caerdydd: “Mae Tafwyl eleni yn mynd i fod yn ŵyl arbennig iawn, yn enwedig wrth i ni ddathlu 20 mlynedd. Rydym yn hynod o gyffrous i gydweithio gyda S4C unwaith eto er mwyn adlewyrchu holl gyffro’r ŵyl ar y sgrin fach, gan roi cyfle i bobl ei mwynhau ble bynnag y maent yn y byd.”

Peidiwch â cholli’r dathliadau – ymunwch â ni ar S4C, Clic a BBC iPlayer i brofi Tafwyl 2026, ble bynnag yr ydych.