BYDD Cymdeithas Ceredigion yn croesawu rhai o enillwyr adran lenyddiaeth Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025 i gyfarfod cyntaf y tymor.

Yn dilyn yr arferiad, sydd wedi’i hen sefydlu, ceir trafodaeth ddifyr a dathliad o Gyfansoddiadau a Beirniadaethau’r Brifwyl ar nos Sadwrn, 6 Medi yng Nghaffi Emlyn, Tan-y-groes. Caiff y noson ei lywio gan y Prifardd Tudur Dylan Jones.

“Mae trafod Cyfansoddiadau’r Eisteddfod Genedlaethol yn ddigwyddiad arbennig a phoblogaidd yng nghalendr y Gymdeithas,” meddai Barbara Roberts, Llywydd Cymdeithas Ceredigion.

“Dyna sy’n rhoi cychwyn bywiog i raglen weithgareddau’r flwyddyn sydd i ddod.

“Ynghyd â dathlu llwyddiant y llenorion buddugol mae’r achlysur yn denu cynulleidfa luosog, o bell ac agos.”

Bob mis rhwng Medi a Mehefin, mae’r Gymdeithas yn cynnal ystod amrywiol o weithgareddau yn tynnu sylw at waith ein hawduron, ein haneswyr a’n cerddorion.

Ymhlith digwyddiadau uchelgeisiol 2025-26 mae sesiynau yng nghwmni’r bardd Mari George, yr hanesydd Hedd Ladd Lewis a’r delynores Meinir Heulyn a’i dosbarth.

Trefnir gwasanaeth Plygain, Eisteddfod ac ymweliad â Chastell Aberteifi hefyd.

Yn ogystal mae Barbara Roberts wedi cyfrannu at gyfrol Cerddi’r Caffi fydd yn cael ei lansio ar ddechrau’r cyfarfod yn Nhan-y-groes.

Amcan y gyfrol farddoniaeth yw codi arian ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las 2026 ac mae’n dilyn llwyddiant Cerddi Dydd Mercher a gyhoeddwyd yn 2020 i gefnogi’r Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd yn Nhregaron yn 2022.

Ers rhai blynyddoedd dan arweiniad y Prifardd Idris Reynolds mae criw o lenorion lleol wedi bod yn cwrdd yng Nghaffi Emlyn i drafod barddoniaeth ac fel o’r blaen mae’r gyfrol newydd yn cynnwys detholiad o’u hymdrechion barddonol. Bydd cyfle i brynu Cerddi’r Caffi ar y noson am £5.

Trafod Cyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025, 7.00pm, nos Sadwrn, 6 Medi 2025, Caffi Emlyn, Tan-y-groes.

Mae croeso cynnes i bawb ymuno â’r cyfarfod ond er mwyn diogelu’r amgylchedd a sicrhau lle i barcio anogir pobl i rannu ceir os yn bosibl.