Bydd dros 400 o aelodau SyM o ledled Cymru yn ymgynnull yn Aberystwyth ar 26 Mawrth ar gyfer Cynhadledd Flynyddol 101ain Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched (FfCSyM)-Cymru.
O dan ofal Ffederasiwn Ceredigion, bydd y digwyddiad yn cymryd lle yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth o 10.45yb tan 4yp.
Bydd sesiwn y bore yn cael ei hannerch gan Jill Rundle, Cadeirydd FfCSyM-Cymru; Pam Beedan, Is Gadeirydd FfCSyM; a Rhian Connick, Pennaeth FfCSyM-Cymru. Hefyd, bydd Gay Evans, Cadeirydd Ffederasiwn Ceredigion yn croesawu aelodau i’r sir.
Bydd y Gynhadledd yn clywed gan Julie Starling o Achub Bywyd Cymru a fydd yn lansio fideo adfywio cardiopwlmonaidd (CPR) yn cefnogi ymgyrch SyM ‘Mae Gwylwyr yn gallu Achub Bywydau’ sy'n cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o CPR a diffibrilwyr. Ers lansio'r ymgyrch yn 2025, mae ffederasiynau a sefydliadau ledled Cymru wedi bod yn trefnu digwyddiadau codi ymwybyddiaeth ac mae dros 2000 o aelodau SyM yn genedlaethol wedi cwblhau hyfforddiant CPR.
Yn annerch y sesiwn prynhawn bydd Yr Athro Fonesig Elan Closs Stephens; Dr Rhodri Llwyd Morgan, Prif Weithredwr, Llyfrgell Genedlaethol Cymru; Eurig Salisbury, Bardd, Nofelydd a Darlithydd; ac Ann Jones, Uchel Siryf Dyfed.
Dywed Jill Rundle, Cadeirydd FfCSyM-Cymru: “Mae Cynhadledd FfCSyM-Cymru yn gyfle gwych i aelodau rwydweithio ag eraill o bob cwr o Gymru, rhannu profiadau, cael syniadau newydd a meithrin brwdfrydedd a chyfeillgarwch.
“Bydd ein haelodau’n gwrando ar, ac yn ymgysylltu ag, ystod eang o siaradwyr yn ein digwyddiad yn 2026 a fydd yn rhoi syniadau a safbwyntiau newydd ar faterion sy’n bwysig iddyn nhw.
“Erioed, mae SyM wedi bod yn lle i fenywod dysgu a thyfu a mynd ymlaen i ddefnyddio eu sgiliau a’u gwybodaeth er budd y cyhoedd, boed mewn gwasanaeth cyhoeddus neu wrth ymgyrchu dros faterion fel diweddu trais yn erbyn menywod.
“Nid yn unig y bydd Cynhadledd eleni yn ddiwrnod o ddysgu pethau newydd ond bydd y manteision i’w teimlo ymhell i’r dyfodol, nid yn unig gan aelodau SyM ond y gymuned gyfan.”





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.