NEITHIWR, dadorchuddiwyd Cadair, Coron a Gwobrau Eisteddfod Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru, sy’n cael ei chynnal yng Ngheredigion eleni. Mae’r chwe chrefftwr ifanc yma’n gyn-aelodau o fudiad y CFfI.

Bydd y gwobrau’n cael eu cyflwyno yn yr Eisteddfod ym Mhafiliwn Bont, Pontrhydfendigaid ar ddydd Sadwrn, 21 Tachwedd - Y Gadair am y gerdd orau a’r Goron am ryddiaith. Bydd y gwobrau eraill yn mynd i fuddugwyr y cystadlaethau llwyfan a gwaith cartref.

Dadorchuddiwyd y gadair, y goron a’r gwobrau mewn digwyddiad arbennig neithiwr yn Llyfrgell y Dref, Aberystwyth.

Ysbrydolwyd y gwobrau i gyd gan dirffurfiau a nodweddion naturiol Sir Ceredigion, gyda’r môr a’r mynyddoedd yn ganolog. Mae’r garthen yn plethu drwy’r cyfan, yn gyfuniad o’r coch sy’n cynrychioli’n tir, y pridd a’n gwreiddiau, a’r glas sy’n symbol o’r dŵr a’r arfordir bendigedig.

Gwehyddwyd y carthenni, sydd â phatrwm traddodiadol Cymreig, yn Amgueddfa Wlân Cymru.

Dyma’r rhediad cyntaf oddi ar beiriant newydd sydd yn y Felin i ddathlu 50 mlynedd ers sefydlu’r Amgueddfa.

Mae’r gwŷdd cleddyf main modern yn plethu’r gwehyddu traddodiadol a’r mwy modern, sy’n unol â gweledigaeth y mudiad. Diolchwyd i’r amgueddfa am eu caredigrwydd wrth noddi’r carthenni.

Mae cwpled o gynghanedd gan Enfys Hatcher Davies, Cadeirydd yr Eisteddfod, yn clymu’r Gadair a’r Goron ynghyd, yn cwmpasu’r thema o ‘Môr a Mynydd’:

“Môr o iaith yw ein mawrhad,

Medwn o gnydau’r mudiad.”

Mae llinell gyntaf y cwpled i’w gweld ar y goron a’r ail ar fraich y gadair. Mae’r geiriau’n symbolaidd yn unigol, ond o’u huno yn rhoi darlun llawn i ni o’r thema a’n mudiad.

Bleddyn ac Owain gyda'r gadair
Bleddyn ac Owain gyda'r gadair (Eisteddfod CFFI Cymru)

Y Gadair

Bleddyn ac Owain Thomas yw crefftwyr y gadair, efeilliaid sy’n rhedeg cwmni adeiladu, Brodyr Thomas, gyda’r ddau’n aelodau o GFfI Felinfach. Crëwyd y gadair yn eu gweithdy yng Nghribyn.

Mae’r pren derw’n cynrychioli cadernid tirffurfiau ein Sir, a chynlluniwyd cefn y gadair i symboleiddio testun y gadair eleni, sef ‘Bwlch’ neu ‘Bylchau’.

Mae Bwa Ystrad Fflur yn hawlio’i le’n bert ar y cefn ac mae’n hawdd adnabod cwysi’r aradr yn ymestyn i lawr ar hyd y pren, sy’n gwau’n berffaith gyda’r llinell, “medwn o gnydau’r mudiad”.

Mae’n bosib dehongli’r patrwm yma fel ffon fugail hefyd, sy’n sefyll yn arwydd o’n gwreiddiau amaethyddol a’r traddodiad cryf o drin y tir sydd gyda ni fel mudiad ac fel Sir.

Noddwyd y Gadair gan Ceredigion NFU Trust Fund.

Meddai Owain a Bleddyn, “Mae wedi bod yn dipyn o brofiad ac yn anrhydedd fawr i ni gael gweithio Gadair Eisteddfod CFfI Cymru eleni.

“Llai na deg mlynedd nôl ro’n ni wrthi yn Rali’r Sir yn gweithio mainc allan o balets - â ninnau dal yn aelodau o’r Mudiad roedd hi’n braf cael y cyfle i greu rhywbeth ry’n ni’n gobeithio y bydd rhywun yn falch iawn ohoni.”

Dylan ac Elen gyda'r goron
Dylan ac Elen gyda'r goron (Eisteddfod CFFI Cymru)

Y Goron

Deuawd arall sy’n rhedeg busnes llewyrchus, Gemwaith Bowen, yw Dylan ac Elen Bowen, gŵr a gwraig o ardal Castell Newydd Emlyn.

Mae’r ddau yn gyn-aelodau o’r mudiad, gydag Elen â’i gwreiddiau yng ngogledd Ceredigion, yng Nghlwb Talybont.

Tonnau’r môr yw prif ffocws y goron, gyda’r bandyn aur yn cynrychioli traethau ein Sir.

Mae Dylan ac Elen wedi glasu’r copr gyda dŵr halen o fae Ceredigion i gydweddu â’r thema, ac wrth i ddŵr y môr adweithio gyda’r copr mae’n creu effaith rhwd glas, naturiol.

Mae’r tonnau i gyd wedi’u plygu’n ofalus â llaw, gyda’r amrywiaeth mewn gwead yn cynrychioli mynd a dod y llif, a rhinweddau unigryw Bae Ceredigion. Mae’r garthen las yn cynrychioli’r dŵr sy’n llifo drwy ein Sir, yn gefnlen hardd ac ifanc i’r campwaith.

Meddai Elen Bowen, “Mae wedi bod yn fraint cael creu coron yr Eisteddfod eleni ar y cyd, ddeng mlynedd cywir ers i Dylan wneud y goron gyntaf i Eisteddfod CFfI Cymru. Mae pob coron yn dipyn o anrhydedd ac rydyn ni’n joio’r her o ddylunio a chreu rhywbeth gwahanol bob tro.”

Noddwyd y Goron gan Gyngor Sir Ceredigion.

Gwobrau gyda Geth a Dion
Gwobrau gyda Geth a Dion (Eisteddfod CFFI Cymru)

Y Gwobrau

Dion Evans o Glwb Pontsian a Gethin Morgans o Glwb Llanwenog yw crefftwyr y gwobrau eleni. Mae’r ddau ffrind yn seiri, gyda Dion yn rhedeg busnes fel saer llawn amser, a Gethin yn saer ac yn amaethwr.

Ysbrydolwyd y gwobrau gan siâp arbennig ein Sir, gyda’r carthenni’n gwreiddio’r siâp ac yn cynnig amrywiaeth.

Mae pob un o’r gwobrau’n unigryw, sy’n eu gwneud nhw’n fwy arbennig. Mae’r pren derw unwaith eto’n cynnig cadernid ac yn cynrychioli ein Sir a’n mudiad.

Noddwyd y gwobrau yma’n unigol gan noddwyr y cystadlaethau amrywiol.