DADORCHUDDIWYD Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr 2025 nos Wener mewn noson arbennig yn Y Towers, Abertawe.
Angharad Pearce Jones, o ardal Brynaman ond yn wrdeiddiol o’r Bala, sydd wedi cynllunio a chreu’r Gadair, diolch i nawdd gan Eglwys Gynulleidfaol Soar-Maesyrhaf a Nicola Palterman, o Gastell-nedd, yw gwneuthurwr y Goron, a noddwyd gan ysgolion cynradd Rhanbarth Gorllewin Morgannwg.
Defnyddiwyd rhai o’r darnau olaf o ddur gweithfeydd Tata Steel yn nyluniad y ddwy wobr, er mwyn talu teyrnged i dreftadaeth ddiwydiannol cartref Eisteddfod yr Urdd eleni, a gynhelir ym Mharc Margam, Port Talbot.
“Gwireddu breuddwyd” o gael creu cadair Eisteddfodol
“Braint o’r mwyaf ydy gwireddu breuddwyd wrth greu’r gadair hon eleni – mae’n rhywbeth sydd wedi bod ar fy wishlist ers blynyddoedd maith,” meddai Angharad Pearce Jones, yr artist arobryn a ddaw yn wreiddiol o’r Bala, ond sy’n byw yn ardal Brynaman ers ugain mlynedd.
Yr ysbrydoliaeth ar gyfer y gadair yw’r gweithfeydd a’r diwydiant dur yn lleol, a defnyddiwyd cyfuniad o’r dur Cymreig a’r dur fflat a gynhyrchwyd ym Mhort Talbot er mwyn ei chreu. Cafodd Angharad daith dywys o amgylch safle Tata Steel a gweld rhannau nad oedd i’w gweld o’r ffordd fawr, fel pibelli di-ri, ac mae’r elfennau hyn i’w gweld ar y gadair orffenedig.
“Dwi’n ffodus i gael y darn olaf o’r dur Cymreig o weithfeydd Tata ar gyfer y gadair, a ro’n i’n benderfynol i greu cadair oedd yn teimlo’n bositif - oedd yn ddathliad yn hytrach na symbol trist am yr hyn a fu. Fy mwriad oedd creu cadair gyfoes ac apelgar i’r person ifanc fydd, gobeithio, yn ei hennill. Dw i eisiau bod nhw’n gallu ei mwynhau am byth.”
Capel Soar Maes yr Haf, Castell-Nedd sy’n noddi’r gadair, a bu Angharad yn ymweld â’r capel Cymreig hwn wrth ymchwilio hanes yr adeilad er mwyn cael ysbrydoliaeth bellach: “Yn rhyfeddol, roedd y gwaith pren a lliwiau coch a hufen pibau'r gweithfeydd dur yn debyg i liwiau’r capel
“ Roedd yna ymdeimlad o gysylltiad cryf rhwng y ddau safle. Roedd nifer o’r Cymry Cymraeg oedd yn arfer mynd i’r capel yn gweithio yn y gweithfeydd, a bydd yna gyfeiriad at y capel yn y dyluniad hefyd.”
Mae’n amlwg bod Angharad wedi gwirioni ar y cyfle, gan nodi bod yr Urdd yn golygu gymaint iddi.
“Dwi wedi cael cryn hwyl a llwyddiant wrth gystadlu ar lwyfan yr Urdd gyda chorau ysgol yn y Bala.
“Enillodd ein hysgol y côr bum mlynedd yn olynol, roedden ni’n enwog a wnaethon ni ryddhau CD hefyd!
“Fues i’n cystadlu mewn gymnasteg, ar y piano ac fel unawdydd, ac mae’r ferch newydd gystadlu yng nghystadleuaeth rygbi 7 bob ochr yr Urdd. Mae ein dyled yn fawr i’r mudiad.”

Coron yn cynnwys deiamwntiau “am y tro cyntaf erioed”
Roedd noddwyr y goron eleni, sef ysgolion cynradd Rhanbarth Gorllewin Morgannwg, yn chwilio am rywun lleol i greu’r goron a neidiodd Nicola Palterman ar y cyfle pan ofynnwyd iddi.
“Dwi wedi dylunio sawl comisiwn difyr dros y blynyddoedd, o fodrwyau priodas i wobr Y Prince William Cup, ond dyma’r goron gyntaf,” esbonia’r dylunydd gemwaith moethus. “Mae fy mhartner busnes, Laura Thomas, wedi dylunio coron i’r Eisteddfod Genedlaethol yn y gorffennol a nawr dwi wedi cael dylunio coron i Eisteddfod yr Urdd!”
Wedi ei geni a’i magu yng Nghastell-nedd, aeth Nicola ymlaen i astudio yn Ysgol Emwaith Birmingham cyn cael cynnig swydd fel dylunydd gemwaith moethus yn Aur Cymru, Dolgellau.
Mi sefydlodd siop emwaith ei hun yn Nolgellau 30 mlynedd yn ôl, cyn dychwelyd adref a sefydlu busnes ym mro ei mebyd. Ar ôl rhannu stiwdio a gweithdy gyda’r gemydd lleol Laura Thomas, penderfynodd y ddwy uno eu busnesau a chreu ‘Jewel and Grace’ ddeunaw mis yn ôl.
Wrth drafod gyda’r noddwyr a’r pwyllgor lleol, roedd pawb yn gytûn bod angen adlewyrchu diwylliant a hanes yr ardal o fewn y cynllun: “Ro’n i’n awyddus bod y cynllun yn cynnwys y Dur a’r Môr. Mae tonnau’r tirlun arfordirol yn ardal Aberafan i’w gweld, a’r adar sy’n symbol cryf yng Nghân y Croeso eleni ac yn cynnig arwydd cryf o obaith at y dyfodol.
“Ond mae hefyd yn cydnabod pwysigrwydd y diwydiant dur sydd wedi bod yn asgwrn cefn i bobl dros y blynyddoedd.
“Mae’r defnydd yn gyfuniad trawiadol o’r arian sgleiniog ‘ifanc’, tin wedi’i orchuddio gyda haen o ddur lleol o weithfeydd Tata, a melfed lliw glas sy’n dod â lliw morwrol i’r cap.
“Dw i hefyd wedi ychwanegu deiamwntiau bach glas er mwyn cyflwyno elfen o foethusrwydd sy’n rhan nodweddiadol o fy ngwaith dros y blynyddoedd – ac rwy’n credu mai dyma’r tro cyntaf erioed i ddeiamwntiau ymddangos ar goron Eisteddfod yr Urdd!”
Cynhelir seremoni’r Cadeirio ar ddydd Iau’r Eisteddfod drwy nawdd gan Ymddiriedolaeth Ivor ac Aeres Evans. Cynhelir seremoni’r Coroni ar ddydd Gwener yr ŵyl diolch i nawdd gan Brifysgol Caerdydd.
Mae’r Urdd hefyd yn diolch i noddwyr prif wobrau a phrif seremonïau eraill yr ŵyl, sef:
- Dydd Llun: Noddir seremoni y Fedal Gelf ac Ysgoloriaeth Artist Ifanc gan Gronfa Elw William Park Jones.
- Dydd Mawrth: Rhoddir y Fedal Ddrama gan Gymdeithas Ddrama Gymraeg Abertawe.
- Dydd Mercher: Medal y Dysgwyr (gan Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe) a Medal Bobi Jones (gan Dŷ'r Gwrhyd) a noddir y seremoni gan Y Ganolfan Dysgu Cymraeg.
- Dydd Sadwrn: Rhoddir y Fedal Gyfansoddi gan gorau lleol, sef Parti Llwchwr, Côr Meibion Clwb Rygbi Treforys, Côr Meibion Dyfnant, Côr Philharmonic Abertawe, Côr y Gweilch, Côr Nedd.