MAE Urdd Gobaith Cymru wedi datgelu murlun cyhoeddus newydd yn Aberystwyth fel rhan o ddathliadau 50 mlynedd ers geni Mistar Urdd – un o eiconau mwyaf adnabyddus a hoffus Cymru.
O’i ddyddiau cynnar fel darlun bach ar bapur yn 1976, mae’r cymeriad coch, gwyn a gwyrdd wedi tyfu i fod yn rhan annatod o brofiadau cenedlaethau o blant a phobl ifanc dros y 50 mlynedd diwethaf.
Mae’r murlun wedi’i ddylunio gan yr artist adnabyddus Pete Fowler, sy’n enwog am ei waith lliwgar a dychmygol ar gyfer albymau’r Super Furry Animals.
Y stiwdio greadigol UNIFY o Gaerdydd sydd wedi cefnogi’r gwaith, gan ddod â’u profiad mewn celf gyhoeddus a chynrychiolaeth gymunedol i’r prosiect.

Mewn digwyddiad arbennig o flaen y murlun ddydd Mercher, daeth cynrychiolaeth o Ysgol Gymraeg Aberystwyth ac Ysgol Plas Crug ynghyd i gyflwyno cardiau pen-blwydd i Mistar Urdd; cyfarchwyd y dorf gan Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd a Wyn Mel, creawdwr y mascot; a cafwyd perfformiad o’r fersiwn newydd sbon o ‘Hei Mistar Urdd’ gan Aleighcia Scott.
Meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd: “Dros y degawdau mae Mistar Urdd wedi teithio i'r gofod, helpu’r Urdd i dorri Record Byd ar achlysur canmlwyddiant y mudiad, cyfarch arlywyddion a phrif weinidogion a bellach yn enw ar drên newydd sbon.
“Mae hefyd yn chwarae rhan allweddol mewn agor drysau i’r Gymraeg a dangos fod yr Urdd yn perthyn i bawb – drwy estyn croeso cynnes i gynulleidfaoedd newydd, siaradwyr newydd, a theuluoedd o bob cefndir. Edrychwn ymlaen at ysbrydoli cenedlaethau newydd o Gymry ifanc i fwynhau drwy gyfrwng y Gymraeg.”

Mae tref Aberystwyth â lle canolog yn hanes yr Urdd ac yn gartref i nifer o gerrig milltir y mudiad dros y degawdau, gan gynnwys pencadlys cyntaf y mudiad. Mae’r gwaith celf yn dathlu hanner canrif o Mistar Urdd ac yn adlewyrchu’r balchder cenedlaethol sy’n gysylltiedig â’r cymeriad.
Mae’r prosiect wedi’i gefnogi gan Gronfa Dydd Gŵyl Dewi Llywodraeth Cymru, sy’n anelu at gefnogi prosiectau sy’n dathlu diwylliant Cymru, yn cryfhau cysylltiadau cymunedol ac yn ysbrydoli balchder cenedlaethol drwy greadigrwydd a chydweithio.
Crëwyd Mistar Urdd yn 1976 gan Wynne Melville Jones (Wyn Mel), Swyddog Cyhoeddusrwydd yr Urdd ar y pryd.

Wrth geisio dod â’r mudiad yn nes at bobl ifanc ac adnewyddu ei ddelwedd, ychwanegodd Wyn wyneb, breichiau a choesau at logo trionglog yr Urdd, gan roi bywyd i gymeriad a fyddai’n dod yn symbol o falchder ieuenctid Cymru.
Mae’n parhau i fod yn un o gymeriadau mwyaf adnabyddus Cymru, ac yn symbol o groeso cynnes a chynhwysiant i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr fel ei gilydd.
Meddai Wyn Mel: “Cefais y cyfle i ddatblygu syniadau newydd i'r Urdd er mwyn apelio at genhedlaeth newydd o ieuenctid, a 50 mlynedd yn ddiweddarach mae Mistar Urdd yn dal i fod yn ffefryn gan blant a phobl ifanc y wlad. Gallaf ddweud â llaw ar fy nghalon i'r holl waith caled dalu ar ei ganfed, ac erbyn heddiw mae'r Urdd yn cael ei gydnabod fel un o fudiadau ieuenctid gorau’r byd.”





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.