CYNHELIR gŵyl undydd arbennig o gerddoriaeth fyw, llên a diwylliant i ddathlu Gŵyl Dewi ar ddydd Iau, 26 Chwefror yng nghanolfan Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Bydd y digwyddiad am ddim yn dechrau o 10:00yb ymlaen ar draws Canolfan y Celfyddydau gyda pherfformiadau, gweithdai a digwyddiadau i bob oedran.

Perfformiadau Byw Mwynhewch Gerddoriaeth byw drwy’r dydd yng nghyntedd y Ganolfan, gyda:

· Meinir Gwilym a’r Band

· Lo-fi Jones

· Aelwyd Pantycelyn

· Lowri Evans a Lee Mason

· Cadog

· Rhiannon O’Connor

· Heledd Ifan

· Côr Meibion y Mynydd

· Côr Meibion Aberystwyth

Gweithdai a Gweithgareddau Amrywiaeth eang o weithgareddau i blant, teuluoedd ac oedolion, gan gynnwys:

· Sesiwn Stori a Chân i blant

· Gweithdy Lego

· Gweithdy Ukelele

· Sesiynau i ddysgwyr Cymraeg, gan gynnwys taith gerdded o amgylch campws y Brifysgol

Sgyrsiau a Chyflwyniadau

· ‘What is Welsh / Beth yw’r Gymraeg?’ gyda’r Athro Mererid Hopwood a Mandi Morse.

· ‘Croeso i Geredigion’ – sesiwn arbennig gan Cered i unrhyw un sy’n awyddus i ddysgu mwy am y sir a’r Gymraeg.

Ffilm a Bwyd

· Yn y Sinema: dathliad o greadigrwydd y sîn gerddoriaeth amgen Gymreig.

· Yn y Caffi: bwydlen arbennig o ddanteithion Cymreig.

Trefnir y digwyddiad gan Ganolfan Gwasanaethau’r Gymraeg, Cered a Chanolfan y Celfyddydau, ac fe’i hariannir gan Gronfa Dydd Gŵyl Dewi, Llywodraeth Cymru.