MAE’R chwaraewr rhyngwladol adnabyddus, Rhys Patchell, wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o rygbi proffesiynol.
Mae ei daith, gan gynnwys ei amser yn Japan a’r penderfyniad i gamu nôl o chwarae'r gêm, yn cael ei ddangos mewn cyfres ddogfen newydd ar S4C.
Mi gadarnhaodd y chwaraewr 32 oed y newyddion cyn i'r gyfres tair rhan, Rhys Patchell: Japan a’r Gic Olaf, gychwyn ar S4C ar 24 Medi am 20:25.
Gyda mynediad arbennig i gamerâu S4C, mae'r gyfres yn cynnig golwg ar fywyd Rhys a'i wraig Heledd, wrth iddynt gychwyn ar flwyddyn gyntaf anarferol o briodas yn ystod tymor cyntaf Rhys yn Japan.
Mae Patchell wedi cynrychioli Cymru ar 22 achlysur rhwng 2013 a 2023 gan gynnwys Cwpan y Byd 2019.
Mi gychwynnodd ei yrfa gyda chlwb Caerdydd cyn symud i'r Scarlets ac wedi chwarae gyda'r Highlanders yn Seland Newydd cyn symud i Japan i chwarae gyda NEC Green Rockets Tokatsu.
Meddai Rhys: "Mae'n teimlo'n go gymysglyd i wybod fy mod i wedi chwarae fy ngêm rygbi proffesiynol olaf. Mae'n amlwg fy mod i'n parhau i garu'r gêm, ond fyddai’n mynegi hynny mewn modd gwahanol o hyn ymlaen.
“O’n i bach yn gymysglyd ar y diwrnod hefyd – o'n i ddim ishe cymryd y boots i ffwrdd yn y stafell newid ar ôl achos o’n i'n gwybod mai dyna fe wedyn. Unwaith oedd y boots off, dyna oedd y diwrnod olaf."
Ond fydd rygbi yn parhau i fod yn ganolog i'w fywyd gan ei fod wedi cychwyn gwaith hyfforddi fel ymgynghorydd i'r Dreigiau: "Y bwriad yw aros ynghlwm gyda'r gêm - yn amlwg mae rygbi dal yn rhan fawr o fy mywyd i a fi wedi trio aros ynghlwm gyda'r gêm.
“Mae'r gwaith gyda'r Dreigiau yn rhywbeth fi'n joio mas draw ac rwy'n gobeithio aros yn y byd rygbi o ran y gwaith cyfryngau yn gweithio ar benwythnosau yn trafod gwahanol gemau sydd yn mynd ymlaen yn ystod y tymor.”
Wrth edrych yn ôl ar yr adegau yn ei yrfa mae o'n trysori fwyaf, dywedodd Patchell: “Rwy’n credu yn y bôn fi fwya’ balch o'r dyfalbarhad.
“Yr anafiadau a pharhau i feddwl bo fi'n gallu dod nôl ac yn gallu perfformio i'r un lefel - os nad yn well - ar ôl bob un.
"Yn amlwg mae chwarae i Gymru a chwarae yng Nghwpan y Byd a'r Chwe Gwlad yn Stadiwm y Principality yn eiliadau bythgofiadwy ond fi'n credu’r peth fyddai'n cofio mwyaf yw'r bobl fi wedi ‘neud yr holl beth gyda.
“Y rhai hynny sydd wedi fy nghefnogi i o'r ymylon – wedi gyrru fi i ymarferion, golchi cit, bwydo fi - yr holl bethau yna – ond hefyd y bobl a'r chwaraewyr hynny fi wedi rhoi'r boots ymlaen a thorchi llewys wrth eu hymyl nhw.
“Achos yn y bôn, unwaith ti'n sticio'r crysau lan ar y wal a ti'n penderfynu cau pen y mwdwl ar yr elfen chwarae, dyna'r unig beth sydd gen ti.
"Rwy’n gwybod fy mod i ddigon ffodus i allu teithio i bedwar ban byd a chodi'r ffôn a fydd gen i ffrind yna sy'n fodlon mynd am baned o goffi, sy'n beth rili cŵl i feddwl."
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.