Bydd S4C yn cynnig darllediad byw o gymal olaf Taith Prydain Dynion Lloyds yn y Gymraeg ar ddydd Sul 7 Medi i nodi ras olaf Geraint Thomas fel seiclwr proffesiynol.

Bydd y chweched cymal yn dechrau yng Nghasnewydd ac yn gorffen ar Ffordd y Gogledd yng Nghaerdydd.

Gyda sylwebaeth arbenigol a chyfweliadau gyda’r seiclwyr ar S4C, cartref chwaraeon Cymru, bydd cefnogwyr yn gallu profi holl gyffro cymal olaf Geraint.

Bydd Taith Prydain: Ras Olaf Geraint yn dechrau am 12.30 ar S4C, S4C Clic, BBC iPlayer a sianel YouTube S4C.

"Bydd cymal olaf Taith Prydain Dynion Lloyds yn fwy na ras - mae'n ddathliad o yrfa eithriadol Geraint," meddai Rhodri Gomer, cyflwynydd darllediadau seiclo S4C. "Mae hi wedi bod yn fraint sylwebu ar ei yrfa ac rydym yn falch i allu darlledu'r cymal olaf hwn yng Nghymru. Mae'n mynd i fod yn emosiynol."

Ychwanegodd Sue Butler, Comisiynydd Chwaraeon S4C: “Mae S4C wedi dilyn gyrfa Geraint dros y blynyddoedd, ac roedd hi’n teimlo’n briodol ein bod yn cofnodi ei ras broffesiynol olaf yn ein prif ddinas.”

Bydd darllediad byw S4C o’r diwrnod olaf yn cael ei gynhyrchu gan Sunset & Vine Cymru gyda’r sylwebwyr Gareth Rhys Owen, Eluned King a Dewi Owen, gwesteion Gruff Lewis and Peredur ap Gwynedd a’r seiclwr proffesiynol Manon Lloyd yn casglu’r holl ymateb wedi’r ras, gan sicrhau na fydd cefnogwyr yn colli eiliad o’r drama. Mae modd gwylio’r Taith Prydain Dynion Lloyds yn ei gyfanrwydd ar ITV.

Wrth i’r peloton nesáu at y terfyn, bydd y sylw i gyd ar Gaerdydd – ac ar Geraint Thomas – am ddiweddglo i’w gofio i yrfa sydd wedi diddanu cefnogwyr a beicwyr ar hyd a lled y wlad.