MAE S4C wedi derbyn 19 o enwebiadau ar draws ystod eang o genres yn rhestr fer gwobrau BAFTA Cymru 2025.

Mae S4C wedi derbyn pob enwebiad yn y categori Rhaglen Blant, gyda’r rhaglenni Deian a Loli (Cwmni Da), Mabinogi-Ogi (Boom Cymru) a Pwysutpam? (Cwmni Da).

Mae cyfres Y Llais (Boom Cymru), a oedd yn boblogaidd gyda phobl ifanc, wedi cael ei enwebu yn y categori Rhaglen Adloniant.

Mae Llond Bol o Sbaen (Cwmni Da) a Sgwrs Dan y Lloer: Noel Thomas (Tinopolis) hefyd wedi cael eu henwebu yn y categori Rhaglen Adloniant.

Mae pedwar enwebiad ar gyfer y gyfres ddrama, Cleddau (Blacklight TV), gan gynnwys un ar gyfer yr actores Elen Rhys (Categori Actores), y cynhyrchydd Mared Swain yn y categori (Torri Trwodd Cymru), i Dafydd Hunt (Golygu) ac yn y categori Sain. Mae’r ddrama Ar y Ffin (Severn Screen Ltd) hefyd wedi derbyn dau enwebiad am y Ddrama Orau ac enwebiad i Rhys Carter yn y categori Cyfarwyddwr-Ffuglen.

Mae’r gyfres Marw Gyda Kris (Ffilmiau Twm Twm) wedi derbyn dau enwebiad – yn y categori Cyfres Ffeithiol ac enwebiad i Kristoffer Hughes yn y categori Cyflwynydd. Mae Bethan Rhys Roberts wedi cael ei henwebu am ei gwaith cyflwyno yn Etholiad 2024, ac mae Ar Brawf (Darlun) wedi derbyn enwebiad yn y categori Cyfres Ffeithiol hefyd.

Mae dau enwebiad yn y categori Rhaglenni Newyddion / Materion Cyfoes: am Newyddion S4C – Neil Foden (BBC Cymru) ac Y Byd ar Bedwar – Huw Edwards (ITV). Mae enwebiad i Ffa Coffi Pawb! (Ie Ie Productions) yn y categori Golygu hefyd.

Dywedodd Llion Iwan, Prif Swyddog Cynnwys S4C: “Mae’n deyrnged i dalent ac ymroddiad y sector fod cynifer o enwebiadau gan S4C ymhob genre.”

Bydd seremoni wobrwyo BAFTA Cymru 2025 yn cael ei chynnal ar 5 Hydref yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Nghasnewydd.