AR ôl sawl blwyddyn i ffwrdd o berfformio, mae canwr-gyfansoddwr a chyfarwyddwr ffilm o Ogledd Cymru, Dïon Wyn, yn dychwelyd gyda I’r Diwedd (To The End) – ffilm sesiwn fyw ac E.P., wedi’i recordio mewn un noson.
Yn 2020, roedd ei fand The Routines newydd ryddhau eu halbwm cyntaf ac ar fin chwarae haf llawn o wyliau ar draws Prydain – tan i Covid stopio’r cyfan.
“Roedden ni newydd ryddhau ein albwm cyntaf fel The Routines ac ar fin chwarae haf o festivals mawr — efo rhai o’n heroes ni, popeth roedden ni wedi gweithio amdano am flynyddoedd — wedyn daeth Covid â’r cyfan i ben, fel gymaint o fandiau eraill,” meddai Dïon.
“Ond ar ôl ‘neud yr albwm a hyn yn digwydd, mi oni’n wâg, a dw i heb berfformio’n iawn ers hynny.
“Doedd gwneud y ffilm yma ddim yn fan cychwyn, ond yn ffordd o orffen y bennod — ar fy nhermau i, os ta’r diwedd yw hyn.”
Recordiwyd y ffilm yn ei ystafell fyw, mewn un noson heb ail gymryd, ac mae’n cynnwys pum cân wreiddiol — storiâu personol ac arsylwadol yn Gymraeg a Saesneg.
“Do’n i ddim eisiau ymarfer o i farwolaeth,” ychwanega. “Roeddwn i eisiau iddo deimlo’n onest – un take, dim ond fi yn yr ystafell.

“Dyna yw’r ffilm hon: y fersiwn fwyaf crai o’r caneuon, a fi fy hun.”
Bydd I’r Diwedd (To The End) yn cael ei ddarlledu ar YouTube ar 2il o Orffennaf, gyda isdeitlau dwyieithog ar gael.
Bydd yr EP ar gael ar yr un diwrnod ar bob platfform ffrydio mawr, gan gynnwys Spotify, Apple Music, Amazon ac ati.
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.