M|E gohebydd gwleidyddol digidol-yn gyntaf wedi ei benodi gan S4C i gryfhau’r arlwy wleidyddol ar blatfformau newyddion dros y misoedd nesaf.

Bydd Jacob Morris, sy’n wyneb cyfarwydd i wylwyr Newyddion S4C, yn dechrau yn y rôl yn syth.

Un o straeon cyntaf Jacob fydd gohebu ar is-etholiad Caerffili ar gyfer Senedd Cymru, yn dilyn marwolaeth yr AS Hefin David.

Bydd bwletinau estynedig o Newyddion S4C a'r brif raglen, hefyd yn dod â’r holl ymateb ar 24 Hydref, ddiwrnod wedi’r is-etholiad.

Bydd arwyddocâd y canlyniad, mewn blwyddyn etholiad, yn cael ei drafod mewn fodlediad arbennig o Y Byd yn ei Le, gyda Catrin Haf Jones, Richard Wyn Jones a gwesteion eraill, a fydd ar gael ar S4C Clic, YouTube S4C a BBC iPlayer ac yn cael ei ddarlledu ar S4C am 21.35.

Dywedodd Sharen Griffith, comisiynydd newyddion a materion cyfoes S4C: “Mae trawsnewid i fod yn ddigidol-yn-gyntaf yn un o brif amcanion strategaeth newydd S4C ac mae darpariaeth ddigidol Newyddion S4C yn parhau i dyfu.

“Rydym yn falch o allu cyd-weithio gyda’r BBC i benodi Jacob i’r rôl newydd hon am y naw mis nesaf, ar drothwy is-etholiad Caerffili a gydag etholiad Senedd Cymru hefyd ar y gorwel.

“Bydd modd i wylwyr a dilynwyr S4C gael y newyddion diweddaraf am yr ymgyrch a’r canlyniadau cyn gynted â’i fod yn torri.”