BYDD Eisteddfod Gadeiriol Trefeglwys yn cael ei chynnal eleni ar ddydd Sadwrn, 17 Hydref, bythefnos yn hwyrach na’r arfer.

Hon yw’r 109fed eisteddfod ers iddi gael ei sefydlu. Y beirniaid eleni fydd Trystan Lewis (cerddoriaeth) ac Eurig Salisbury (llefaru a llên). Ruby Grigg fydd yn beirniadu’r cystadlaethau dawnsio.

Mae dwy wobr arbennig wedi cael eu cyflwyno i’r pwyllgor eleni gan deulu dau ŵr a fu’n gefnogwyr brwd i Eisteddfod Trefeglwys ac a fu’n rhan annatod ohoni dros y blynyddoedd.

Cyflwynwyd tarian er cof am Hefin Bennett gan ei deulu fydd yn cael ei rhoi i’r llefarydd gorau yng nghyfarfod y prynhawn bob blwyddyn, sef y cystadlaethau i blant oed cynradd.

Bu Hefin yn un o arweinwyr yr Eisteddfod am gyfnod anhygoel o hanner can mlynedd felly roedd yn wyneb cyfarwydd iawn ar y llwyfan yn Nhrefeglwys. Roedd hefyd yn ffermwr wrth ei waith, yn gynghorydd ac yn Ynad Heddwch.

Cyflwynwyd cwpan gan deulu Alun Watcyn Bunford er cof amdano fydd yn cael ei rhoi i enillydd yr Unawd Sioe Gerdd yng nghyfarfod y nos yn flynyddol.

Bu Alun yn aelod o’r pwyllgor, ac yn cystadlu yn Eisteddfod Trefeglwys a chanu Cân y Cadeirio, am flynyddoedd lawer gyda’i lais bas/bariton cryf. Bu Alun hefyd yn gynghorydd bro, yn llywodraethwr yn yr ysgol leol ac yn gadeirydd pwyllgor neuadd y pentref.

Llywydd y dydd eleni yw Dr Andrew Griffiths, Burgess Hill, Sussex. Bydd cyfarfod y prynhawn yn dechrau am 12yp, a chyfarfod yr hwyr yn dechrau am 6yp, gyda seremoni’r cadeirio am 7.30pm.