MAE enillydd Y Llais, Rose Datta, sydd â sengl drawiadol gyntaf allan, yn annog pobl Cymru ymgeisio am y gyfres newydd gyda llai nag wythnos i fynd!
Rhyddhawyd y sengl newydd Gwerthfawr ddoe – gan ddechrau ar bennod newydd gyffrous yn ei gyrfa gerddorol.
Mae Gwerthfawr yn gân o berspectif merch sydd wedi canfod gwerth yn ei hun. Mae’n gân am rymuso eich hun fel unigolyn balch a chryf heb orfod dibynnu ar eraill.
Y gantores-gerddores Mared Williams a’r cynhyrchydd-gerddor Nate Williams sydd wedi ysgrifennu'r alaw a’r geiriau ar y cyd, fel rhan o wobr Rose am ennill Y Llais. Mae Gwerthfawr yn cael ei ddosbarthu gan PYST ac ar gael ar holl wefannau ffrydio yn cynnwys Spotify, Apple Music, Deezer a YouTube (audio). Gallwch weld Rose yn ei chanu yma.
Meddai Rose: “Dwi’n rili gyffrous, mae wedi bod yn brofiad anhygoel o allu recordio a fi wedi bod yn awyddus i’w gael e allan a rhannu hefo pawb. Fi’n rili falch bod yr amser ’na wedi cyrraedd nawr.
“O’dd y recordio yn wych, roedd hi’n neis cael gweithio gyda phobol mor anhygoel â Mared a Nate. Fy hoff fath o sgwennu ydi sgwennu o’r galon a baledi, fe gafodd y tri ohonom ni sgwrs er mwyn iddyn nhw adlewyrchu beth oeddwn i ei eisiau – mae nhw wedi taro’r hoelen ar ei phen gyda’r vibe! Mae hi’n gân relatable iawn.”
Cynhyrchiad Boom Cymru, rhan o ITV Studios ydy Y Llais, a fformat ITV Studios; y fersiwn Gymraeg o’r gyfres deledu fyd-eang, The Voice. Mae cystadleuwyr Y Llais yn camu i’r llwyfan a wynebu rhes o hyfforddwyr â’u cefnau yn wynebu’r canwr. Y llais yn unig sydd yn eu perswadio i droi yn eu cadeiriau.
Darlledwyd y gyfres gyntaf o Y Llais ar S4C yn 2025, a chipiodd Rose y wobr yn y ffeinal ar 30 Mawrth.
Mae bywyd wedi bod yn hynod brysur i Rose ers y noson honno. Fe berfformiodd mewn noson i ddathlu Rownd Feirniadu Cyn-Derfynol ar gyfer cystadleuaeth yr Emmy® Rhyngwladol 2025 yng nghastell Caerdydd ddiwedd mis Mehefin.
Ac yn fwy diweddar mae hi wedi bod yn canu gyda’r FAW, yr Urdd ac S4C yn ystod ymgyrch Pencampwriaeth UEFA Euro Menywod 2025.
Rhyddhaodd y band Taran – y mae Rose yn brif gantores iddynt - y sengl Gobaith ym mis Mai, gyda mwy i ddod wedi i’r band fod yn recordio gyda Mei Gwynedd. Perfformiodd Taran yn Tafwyl yng Nghaerdydd ganol mis Mehefin, hefyd.
Ar ben popeth, bydd Rose yn dechrau yn y brifysgol yn Llundain fis Medi, meddai: “Mae haf prysur o’m blaen cyn dechrau yn Trinity, Llundain. Mae’r band Taran, yn chwarae yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn Maes B, a dwi’n edrych ymlaen cael gweld pa ddrysau newydd all agor wedi rhyddhau’r sengl Gwerthfawr.”
Yn y cyfamser, mae Y Llais yn chwilio am gantorion ar gyfer cyfres newydd o’r gystadleuaeth gerddorol Gymraeg boblogaidd yn 2026; cyfle unigryw i wynebu’r cadeiriau coch eiconig a chael eich mentora gan rai o dalentau cerddorol mwyaf Cymru. Mae Rose yn annog pawb i fynd amdani, meddai: “Os chi’n meddwl am ymgeisio, paid gor-feddwl amdano! Os mae’n rhywbeth chi’n angerddol amdano, cer amdani, chi methu colli unrhyw beth rhag trio. O’dd rhaid i fi ddweud hynny i fy hun, give it a go a gweld beth sy’n digwydd.”
Dyddiad cau ymgeisio ar gyfer Y Llais yw dydd Gwener, 18 Gorffennaf 2025 am 23.59. Gallwch ymgeisio yma: Y Llais | S4C
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.