YR wythnos hon cyhoeddir cyfrol o ysgrifau taith gan awdur ifanc sy’n hen law ar ‘sgwennu a sylwebu ar seiclo yn Gymraeg.

Yn Ei Dro – Cymru’r Ddwy Olwyn yw cyfrol gyntaf y seiclwr brwd Gruffudd ab Owain, sy’n 21 oed ac hefyd yn sylfaenydd gwefan a blog Y Ddwy Olwyn yn 2018. Mae Yn Ei Dro yn cynnwys 14 o ysgrifau ar sail 14 o deithiau beic ym mhob cwr o Gymru.

Meddai Gruffudd: “Dwi wedi bod yn seiclo ers oeddwn i’n 7 oed, ac mae fy niddordeb wedi bod bron yn obsesiynol ar brydiau.

“Yn wir, yn y gyfrol, dwi'n ceisio dirnad apêl seiclo yn ei hanfod - y ddihangfa mae'n ei gynnig, y cyfle i grwydro, i adnabod, i feddwl, i brofi unigedd, i herio fy hun.”

Mae i’r ysgrifau oll naratif sy’n gwau drwy’r daith, gyda chyfle i fyfyrio ar arwyr, arweiniad, cymuned, gwreiddiau, heddwch, cerddoriaeth, crefydd, hunaniaeth gwiar a mwy.

Cwblhaodd yr awdur y teithiau rhwng tymhorau prifysgol; cyfnod o newid mawr, lle bu’n byw dramor am y tro cyntaf. ‘Gorau Cymro, Cymro oddi cartref’, chwedl y ddihareb: y bwriad, felly, oedd dod i ’nabod ei genedl ei hun yn well, a thaflu goleuni newydd ar ei ddealltwriaeth ohoni.

“Ar ôl fy Lefel A, fe benderfynais i ymgymryd â gradd ddeuol mewn Astudiaethau Ewropeaidd yng Ngholeg y Brifysgol, Llundain, lle'r oedd gofyn i mi dreulio dwy flynedd yn astudio yn Sciences Po, ar gampws Menton ar y Côte d'Azur!

“Cwblhawyd y teithiau bron i gyd yn ystod gwyliau coleg, felly roedd 'na ddeisyfiad i ddod i 'nabod fy nghenedl fy hun yn well, tra hefyd yn tynnu ar fy mhrofiadau a 'nysgeidiaeth newydd i daflu goleuni newydd ar yr adnabyddiaeth honno.

“Mae geiriau T.H. Parry-Williams yn dod i'r meddwl - ‘wedi gweld Drws y Coed y gallwyd gweld y byd, ond rhaid oedd gweld peth ar y byd cyn iawn weld Drws y Coed’.”

Ynghyd â’r blog Y Ddwy Olwyn, mae Gruffudd ab Owain hefyd yn gyn-olygydd ar gylchgrawn Y Selar (2023-26), ac yn cyfrannu'n gyson i gyhoeddiadau fel Barn, Golwg, BBC Cymru Fyw, Croeso Cymru.

Enillodd Dlws yr Ifanc yn Eisteddfod Genedlaethol Boduan 2023 am ysgrif daith debyg i’r rhai sydd i’w canfod yn Yn Ei Dro a hynny’n sbardun pellach i fwrw ati â ‘r gwaith ‘sgwennu.

Meddai Gruffudd ab Owain: “Roedd blogio ar Y Ddwy Olwyn yn rhan fawr o’m meithrinfa fel ‘sgwennwr, ac hefyd wedi galluogi inni greu cymuned o seiclwyr Cymraeg eu hiaith, yn rhannu syniadau am y llefydd y dylid ymweld â nhw ar feic.

“Mae Yn Ei Dro felly’n benllanw teilwng, dwi’n teimlo, i wyth mlynedd o ymwneud â byd y beic yng Nghymru. Dwi’n ffodus iawn o fod wedi gallu rhoi fy hun a’m ‘sgwennu allan i’r byd o oedran mor ifanc, ac o’r cyfle i adeiladu ar hynny i roi cyfrol gyfan at ei gilydd.”

Bydd Yn Ei Dro: Cymru’r Ddwy Olwyn (Y Lolfa, £12.99) yn cael ei lansio’n swyddogol ar nos Wener, y 3ydd o Orffennaf, yn Theatr Derek Williams, Y Bala, am 7:30yh.