“DIWRNOD bythgofiadwy”, dyna ddisgrifiad dros 100 o aelodau Merched y Wawr Rhanbarth Ceredigion ai ffrindiau’n dilyn eu taith heddwch a gynhaliwyd yn ddiweddar.
Trefnwyd y daith gan y Pwyllgor Rhanbarth i godi arian tuag at elusen ein Llywydd Cenedlaethol, Bethan Picton Davies, sef Ymchwil Canser Cymru.
Ar ôl dechrau wrth Gapel Gwynfil yn Llangeitho teithiodd y merched tuag at Lanbadarn Odwyn pryd y cawsant saib a phicnic bach yn yr eglwys hynafol
Ymlaen wedyn tuag at Dregaron gan fwynhau rhyfeddodau natur a golygfeydd ysblennydd. Yno, wrth droed cofeb Henry Richard cafwyd anerchiad gwych gan Catrin Stevens a fu’n amlinellu hanes prif ysbrydoliaeth y daith hon sef Annie Jane Hughes Griffiths neu Annie Cwrt Mawr.
Y wraig hon, a gladdwyd yng Nghapel Gwynfil, Llangeitho oedd un o brif ymgyrchwyr merched Cymru dros heddwch ym 1923/ 24. Teithiodd i America gyda 2 arall i gludo yn agos at 400.000 o lofnodion gwragedd Cymru i’r Tŷ Gwyn yn Washington i’w cyflwyno i’r Arlywydd Calvin Coolidge i ymbil am heddwch byd.
Ar ôl gwrando ar yr hanes diddorol a phwysig hwn cafodd aelodau Merched y Wawr y Rhanbarth, de blasus yn y Neuadd Goffa. Yno nodwyd pwy oedd wedi bod yn llwyddiannus i brynu un o 6 print ardderchog o Annie gan yr artist o Dalgarreg, Meinir Mathias. Diolch iddi am ei rhodd hael i’r gronfa.
Dywedodd y trefnwyr: “Diolch i bawb a fu’n rhan o’r diwrnod arbennig hwn gan gynnwys y trefnwyr.
“Diolch i Cacennau Gwen am y bwyd blasus ac i aelodau Merched y Wawr Tregaron am ei weini. Diolch arbennig i Gwyneth Davies ac Averinah Davies. am drefnu’r daith mor fanwl â gofalus.”





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.