MAE oriau gwylio S4C ar draws ei llwyfannau digidol ar eu huchaf erioed.
Yn ei Adroddiad Blynyddol 2024-25 mae’r darlledwr yn nodi cynnydd o 7% mewn gwylio ar draws Clic ac iPlayer ers y llynedd, gyda 14% o holl wylio S4C nawr yn digwydd ar draws Clic, iPlayer a YouTube.
Mae strategaeth hir-dymor S4C i drawsnewid i fod yn ddigidol yn gyntaf i’w gweld yn cydio wrth iddi gynnig mwy o raglenni a chynnwys ar YouTube a chyfryngau cymdeithasol, a chyhoeddi dramâu ar ffurf bocs sets.
Bu twf sylweddol yn y gwylio o gynnwys S4C ar gyfryngau cymdeithasol, a chynnydd o 75% yn yr ymwneud gyda phrif gyfrifon S4C ar Facebook, Instagram a TikTok.
Parhau i gryfhau mae Newyddion Digidol S4C, gyda chynnydd o 28% eleni yn nifer o dudalennau’r gwasanaeth a welwyd.
Yn erbyn tirlun cystadleuol i’r holl ddarlledwyr, mae cyrhaeddiad wythnosol S4C wedi llwyddo i gynnal yn gyson ar draws yr holl blatfformau ac yn uwch yng Nghymru na thair blynedd yn ôl. Yn ogystal, roedd y ffigurau ar gyfer oedrannau 45–64 yng Nghymru wedi cynyddu i 104,000; y lefel uchaf ers 12 mlynedd.
Mae lefelau gwerthfawrogiad cynnwys hefyd wedi parhau’n uchel drwy’r flwyddyn, gyda rhai rhaglenni yn ennill sgorau gwerthfawrogiad yn uwch na 90.
Yn ôl ei arolwg tracio delwedd blynyddol, mae gwelliant eto eleni yn nelwedd gyhoeddus S4C ar draws Cymru – a hynny ymhlith siaradwyr Cymraeg a'r di-Gymraeg.
Mae 75% o siaradwyr Cymraeg sy’n gwylio S4C yn credu ei bod yn sianel sy’n dangos bywyd cyfoes yng Nghymru, 73% yn credu ei bod yn llwyddo i adlewyrchu Cymru a’i phobl yn ei holl amrywiaeth ac 86% yn credu bod S4C yn cefnogi’r Gymraeg trwy ei rhaglenni a’i chynnwys.
Daw hyn yn ystod blwyddyn o drawsnewid mewnol a gosod sylfeini cadarn yn S4C wrth i’r darlledwr groesawu arweinwyr newydd gan gynnwys Cadeirydd (Delyth Evans), Prif Weithredwr (Geraint Evans) a Phrif Swyddog Cynnwys (Llion Iwan).
Mae’r tîm newydd yn parhau’r gwaith diwylliannol a llywodraethol gychwynnodd dan adain eu rhagflaenwyr dros dro, Guto Bebb (Cadeirydd) a Sioned Wiliam (Prif Weithredwr).
O ran cynnwys, mae drama unwaith eto wedi bod yn ganolog i'r arlwy gyda Cleddau yn llwyddo i fod y gyfres fwyaf poblogaidd erioed gan S4C ar yr iPlayer.
Mae’r fformatau newydd Marw gyda Kris a Cyfrinachau'r Llyfrgell wedi llwyddo i ennill gwobrau ac ennyn diddordeb a gwerthfawrogiad gwahanol gynulleidfaoedd, tra bod Amour a Mynydd ac Y Llais yn llwyddiant eithriadol ymhlith cynulleidfaoedd iau, gyda dros hanner cynulleidfa’r ddwy gyfres dan 45 oed.
Meddai Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C: “Mae'n fraint cyflwyno fy adroddiad cyntaf fel Prif Weithredwr S4C ar ddiwedd blwyddyn lle rydym wedi datblygu ein harlwy a'n gwasanaeth i'r gwylwyr, wedi ehangu ein presenoldeb ar lwyfannau digidol ac atgyfnerthu ein hunaniaeth fewnol a'n ffyrdd o weithio.”
Meddai Delyth Evans, Cadeirydd S4C: “Rwy'n falch bod y sefydliad wedi parhau i gydweithio'n agos â'n partneriaid yn y sector gynhyrchu yn ystod y cyfnod adrodd hwn, gan ddarparu cynnwys o safon sy'n ysbrydoli ac yn adlewyrchu Cymru. Rwy’n edrych ymlaen at gael adeiladu ar y llwyddiant yma.”
Dolen i'r Adroddiad Blynyddol: https://media.cms.v3.s4c.cymru/media/media_assets/48eb7fc5-d789-40eb-b8ee-31c06612a7fb.pdf
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.