MAE Ceiri, nofel gyntaf Hywel Williams, sy’n wleidydd Plaid Cymru ac yn gyn-aelod seneddol dros Arfon, wedi cael ei chyhoeddi.

Hanes dychmygol yw Ceiri am gariad, iaith a hunaniaeth; twyll swyddogol a chyfalafiaeth reibus; a gwydnwch cymeriadau yng nghymdeithas pentref chwarelyddol bro’r Eifl yn ystod haf 1938.

Mae cwmni o Lundain wedi prynu’r chwarel ac eisiau gosod adeilad milwrol dirgel ar yr Eifl.

Mae dyfodol y chwarel yn y fantol a dyfodol yr iaith, wedi i’r rheolwr newydd orchymyn bod yn rhaid i’r gweithwyr i gyd siarad Saesneg.

Yn erbyn y gefnlen o ‘drais’ corfforaethol a gwleidyddol, cawn ddod i adnabod Elsbeth, merch ifanc, glyfar sy’n cael ei rhwygo rhwng ei gyrfa a gofalu am ei thad.

Difyr hefyd yw ei pherthynas efo Guto, y chwarelwr, Dafydd, yr academydd, a Spinks, rheolwr y chwarel, sy’n ychwanegu mwy o gynnwrf i’r stori!

Mae adnabyddiaeth lwyr yr awdur o ardal Llŷn yn amlwg yn y nofel. Nid manylion ychwanegol yw’r disgrifiadau cain o fynydd a thref, o chwarel a môr: maent yn elfennau hanfodol, a bron yn gymeriadau ynddynt eu hunain.

Daeth y nofel hon yn agos i’r brig yng Ngwobr Goffa Daniel Owen, Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, 2023.

Cafodd y stori ganmoliaeth uchel gan y beirniad, Mared Lewis: “O’r dechrau’n deg, cefais argyhoeddi fy mod yn nwylo awdur o’r iawn ryw yma”.

Dywedodd fod y ‘llinyn storïol... yn gafael’ y ‘stori’n llifo gan awdur sydd yn feistr ar iaith’ a bod y ‘cymeriadau yn argyhoeddi’.

Dywedodd yr awdur: “Ysgrifennais ran helaeth o’r nofel hon ar drên Llundain, yn llyfrgell Tŷ’r Cyffredin yn hwyr yn y nos, ac yn y Siambr wrth ddisgwyl cael fy ngalw i siarad.

“Dyma’r tro cynaf i mi gynnig unrhyw beth creadigol i’w gyhoeddi ac mae’n fy rhyfeddu ei fod erbyn hyn yn gweld golau dydd – diolch i’r Lolfa.

“Mae Ceiri yn nofel wleidyddol, yn mynd i’r afael â sut ddylai’r cymeriadau ymateb i ‘foderneiddio’ – ai cydweithio, ymwrthod neu oroesi a bod yma o hyd?”

Cynhaliwyd lansiad i’r nofel ym Mhalas Print, Caerrnarfon, gyda Meg Elis yn holi’r awdur a Cedron Sion yn rhannu pwt o’r nofel.