YR wythnos hon mae llyfr graffeg syml yn cael ei chyhoeddi sy’n cyfuno geiriau’r awdur arobryn Haf Llewelyn, lluniau arbennig Osian Roberts a stori emosiynol boddi Cwm Celyn.

Mae Dŵr Oer Tryweryn gan Haf Llewelyn (Y Lolfa) ar gyfer plant 7 oed a hŷn sy’n chwilio am stori sydyn a hawdd ei darllen yn Gymraeg wedi ei ddarlunio’n helaeth trwyddi.

Meddai’r awdur Haf Llewelyn: “Rydw i’n byw yn Llanuwchllyn, y Bala, ac yn mynd heibio i Lyn Celyn yn aml.

“Pan mae’r haf yn sych, mae olion o bentref bach Celyn yn dod i’r golwg wrth i’r dŵr fynd yn isel.

“Byddaf bob amser yn teimlo’n drist wrth weld yr olion, gan gofio bod pentref bywiog wedi bod yno unwaith. Fel pob pentref arall, roedd yno blant yn chwarae.

“Mae dysgu am ein hanes ni, fel Cymry yn bwysig iawn, fel bod ein plant yn gwybod am ddigwyddiadau ddoe, sydd wedi siapio Cymru heddiw.”

Mae’r stori wedi ei adrodd o safbwynt sgwarnog, sy’n byw yn y cwm, sy’n sylwi ar y gymuned fel yr oedd hi – yn fyrlymus ac yn glos. Yna, drwy’r tymhorau, mae’n sylwi ar y newidiadau – pobl yn symud i ffwrdd, tai gwag, y peiriannau mawr yn dod a’r anifeiliaid yn colli eu cartref a natur yn dirywio.

Ychwanegodd Haf: “Pan ddaeth y peiriannau mawr i chwalu’r pentref, bu’n rhaid i bawb symud i fyw i rywle arall.

“Felly roeddwn i’n meddwl am y ffrindiau oedd yn gorfod symud hefyd, ac efallai nad oedden nhw’n mynd i weld ei gilydd eto.

“Rydw i wedi defnyddio ysgyfarnog fel motiff sy’n dangos datblygiad y chwalu, a sut y bu iddi hithau hefyd ddianc rhag y dŵr oer.”

Daeth nofel hanesyddol cyntaf Haf Llewelyn i blant i’r brig gan ennill Gwobr Tir na n-Og yn 2014. Mae Diffodd y Sêr, ar gyfer plant oed Uwchradd, wedi'i seilio ar hanes Hedd Wyn ac mae'r Rhyfel Byd Cyntaf yn gefndir i'r digwyddiadau.

Mae Dŵr Oer Tryweryn gyda lluniau arbennig du a gwyn Osian Roberts ar bob tudalen.

“Fel cyn athrawes, rydw i’n cydymdeimlo’n fawr gydag athrawon, sy’n ceisio dod â hanes Cymru i’r dosbarthiadau, ond mae adnoddau addas yn dal yn brin.

“Mae’n rhaid cael amrywiaeth eang o adnoddau hanes Cymru.

“Mi fues i’n darllen nofel wych Gwenno Hughes, Ta-ta Tryweryn, efo’r disgyblion pan oeddwn i’n athrawes.

“Roeddwn i’n awyddus i gael stori arall ar ffurf nofel graffeg i gyflwyno’r hanes, a phan welais i waith celf a ffilmiau Osian Roberts am foddi Celyn, mi wnes i feddwl y bydden ni’n gallu cyd-weithio i greu adnodd addas i blant oed Cynradd.

“Bu cyd-weithio gydag Osian yn brofiad arbennig, gan fod ganddo wybodaeth eang am stori Celyn, ac yn gallu cyfleu teimladau trwy ei ddarluniau.”

Mae Dŵr Oer Tryweryn gan Haf Llewelyn ar gael nawr (£6.99, Y Lolfa).