“MAE cwis da’n diddanu, yn herio ac yn addysgu ar yr un pryd, a dyna ydy bwriad y llyfr yma,” meddai awdur llyfr newydd cwis, Osian Rowlands, yn ei gyflwyniad i’w lyfr cwis newydd, sydd ar gael nawr.

Y cyntaf o’i fath, mae Cwis Cymru yn cynnwys trawstoriad difyr o weithgareddau a heriau, gan gynnwys croeseiriau, chwileiriau, seiffrau, drysfeydd, paru ffeithiau, odl-eiriau, llythrennau a rhifau coll, ynghyd ag ystod o gwestiynau.

Meddai Osian Rowlands: “Daeth yr ysbrydoliaeth o dderbyn llyfr cwis yn anrheg Nadolig gan y wraig, ac yn synnu nad oeddwn i wedi cael llyfr yn y Gymraeg.

“Wrth fynd ati i drafod ac ymchwilio, gwelais nad oedd llyfr cwis am Gymru yn y Gymraeg ar gael.

“Ar yr un pryd roeddwn yn dioddef yn ofnadwy gyda phoen cefn ac yn eithaf caeth i’r tŷ.

“I rywun sy’n arfer mynd allan i feicio ac i gerdded yn y mynyddoedd, roedd hwn yn gyfnod anodd ofnadwy i mi ac roedd sgwennu’r llyfr yma’n ffordd dda o ffocysu’r meddwl.”

Ychwanegodd: “Dwi’n berson sydd ag ystod eang o ddiddordebau ac felly mae gen i wybodaeth arwynebol am nifer o bynciau/meysydd, ac yn rhinwedd fy swydd gynt fel athro cynradd mae gen i brofiad o gyflwyno a meithrin amrywiaeth eang o wybodaeth a sgiliau!

“Yn ogystal â hyn, rydw i wedi bod yn aelod o’r ‘Criw Cwis’ sef criw bychan sydd gynnon ni yn nhafarn gymunedol Ty’n Llan sy’n trefnu’r cwisiau misol ers rhyw dair blynedd bellach.”

Mae Cwis Cymru yn adnodd perffaith i gynnal nosweithiau cwis yng nghwmni ffrindiau a theulu gartref, yng nghwmni cymdogion yn y dafarn neu’r neuadd leol, neu i unigolion eu difyrru eu hunain lle bynnag y bônt ac waeth beth fo’u hoed!

Mae Cwis Cymru gan Osian Rowlands ar gael nawr (£8.99, Y Lolfa).