O Gaernarfon i Gasnewydd, Preseli i’r Rhondda, Sir Ddinbych i Sir Benfro, daeth dros 160 o ddisgyblion chweched dosbarth, myfyrwyr Addysg Bellach a grwpiau ieuenctid o bob cwr o Gymru ynghyd i gymryd rhan yn Hystings Cenedlaethol yr Urdd ddydd Iau, yn yr All Nations Centre, Caerdydd.

Yn y bore roedd mynychwyr yn cymryd rhan mewn gweithdai ar ddemocratiaeth, sesiynau grymuso pobl ifanc i ddefnyddio eu llais, a’u helpu i baratoi cwestiynau i’r gwleidyddion. Cynhaliwyd gweithdai rhyngweithiol gan The Politics Project, Tîm Addysg ac Ymgysylltu Ieuenctid y Senedd, a Chanolfan Llywodraethiant Cymru – gan ddarparu’r wybodaeth a’r hyder i’r bobl ifanc lunio cwestiynau craff ar gyfer yr hystings.

Yn y prynhawn, bu’r bobl ifanc yn arwain ar y drafodaeth wleidyddol, gan holi a herio cynrychiolwyr o brif bleidiau Cymru gyda chwestiynau ar amrywiol themâu gan gynnwys y cynnydd mewn cost addysg uwch, yr iaith Gymraeg a mewnfudo.

Y gwleidyddion yn cymryd rhan oedd Jane Dodds AS (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru), Cyng. Huw Thomas (Llafur Cymru), Tessa Marshall (Plaid Werdd), Delyth Jewell AS (Plaid Cymru), Corey Edwards (Reform) a Tom Giffard (Ceidwadwyr Cymreig).

Ffilmiwyd yr hystings gan Tinopolis ar gyfer rhaglen Pawb a’i Farn: Dadl yr Urdd, i’w ddarlledu ar S4C heno. Sicrhawyd hefyd ffrydiad byw o’r digwyddiad ar YouTube ar gyfer ysgolion a grwpiau nad oedd yn gallu bod yn bresennol.

Wrth adlewyrchu ar y digwyddiad, dywedodd Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd: “Roedd gweld pobl ifanc Cymru yn cymryd yr awenau a holi cwestiynau mor graff yn ysbrydoledig. Mae eu lleisiau’n hollol allweddol wrth i ni edrych tua’r dyfodol ac mae’r Urdd yn falch o fod yn blatfform lle gallent leisio’u barn ac ymgysylltu’n hyderus â democratiaeth.”