MAE’R gyfrol newydd Rownd a Rownd yn Dathlu’r 30 yn nodi 30 mlwyddiant un o bileri teledu Cymraeg y genedl, Rownd a Rownd.

Byth ers iddi ymddangos ar ein sgriniau, ’nôl yn 1995, mae’r gyfres wedi bod yn ffynnon gyson o ddifyrrwch i aelwydydd lu – o Fôn i Fynwy, a thu hwnt – ac mae ei chymeriadau yn agos at galonnau ei gwylwyr triw.

I ddyfynnu Prif Weithredwr S4C, Geraint Evans: “Beth sydd mor arbennig amdani? Wel mae hi’n fwy na chyfres deledu.

“Mae hi’n cynnig portread o fywyd bob dydd – y profiadau, yr iaith a’r cymeriadau sy’n adlewyrchu cymaint o gymunedau Cymraeg gogledd Cymru.

“Dros y blynyddoedd mae ei straeon wedi trafod themâu dwys – iechyd meddwl, colled, cyfeillgarwch – mewn ffordd sensitif a realistig, ochr yn ochr â straeon a chymeriadau llawn hiwmor, a hynny oll mewn Cymraeg naturiol, agos-atoch.

“Mae hi’n gyfres sy’n dal i ddenu cyfraddau gwylio uwch na’r arfer ymysg plant, pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed, a’r rhai llai hyderus eu Cymraeg.”

Mae’r llyfr hwn yn cynnwys cyfraniadau gan sawl aelod o deulu Rownd a Rownd – yn gast a chriw o bob cyfnod – a chasgliad helaeth o luniau.

Bydd y cwbl yn rhoi blas i’r darllenydd (y tu ôl i’r llenni!) o’r amrywiol adrannau, rolau ac atgofion sy’n rhan o wead cynhyrchiad o’r fath.

Meddai Bedwyr Rees, Uwch-gynhyrchydd y gyfres: “Mae Rownd a Rownd wedi bod yn sylfaen gwbl hanfodol i’r diwydiant creadigol yng ngogledd Cymru ac wedi bod yn hwb eithriadol i’r economi leol.

“Mae wedi bod yn feithrinle i nifer dirifedi o actorion a chriwiau technegol a chynhyrchu.

“Mae’r ethos yna o hyfforddi a meithrin yn naturiol efallai mewn cyfres sydd wedi esblygu o’r gwreiddyn o fod yn rhaglen blant.”

O ddyddiau’r fflôt lefrith a’r rowndiau papur i oes aur y TikTokwyr, mae Glanrafon wedi gweld sawl newid… ond un peth sydd wedi aros yn wastad o hyd, a hynny ydi cefnogaeth y ffans arbennig.

Bydd y gyfrol yn cael ei lansio yn Pontio, Bangor fel rhan o ‘Gyngerdd Rownd a Rownd yn Dathlu’r 30’ ar nos Sadwrn, 13 Medi am 7yh. Bydd y noson yn cychwyn am 6y gyda chyfle i gwrdd y cast.