MAE grŵp o fenywod sy'n helpu i drefnu digwyddiadau cymdeithasol yn y Gymraeg wedi codi dros £26,000 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru.

Enwodd Llywydd Cenedlaethol Merched y Wawr, Geunor Roberts, y gwasanaeth sy'n achub bywydau fel eu partner elusennol yn ystod ei dwy flynedd yn y rôl. Daeth ei thymor i ben ym mis Awst 2025.

Mae gan y sefydliad, a gafodd ei sefydlu yn 1967, filoedd o aelodau ledled Cymru.

Cafodd Geunor ei 'hysbrydoli' i godi arian ar gyfer yr elusen ar ôl i glinigwyr ymateb i ddigwyddiad wrth ei chartref bum mlynedd yn ôl.

Meddai: "Roedd beicwyr mynydd o Gorris, ger Machynlleth yn ffilmio ar glogwyn cul o'r enw Tap Nyth yr Eryr, ger Bwlch y Groes, Llanymawddwy.

"Syrthiodd un ohonynt mewn lle anodd ei gyrraedd. Ni allai ambiwlans ffordd arferol ei gyrraedd, ac ni fyddent wedi gallu ei gludo ar stretsier chwaith.

"Cawsom ein rhyfeddu wrth i'r ambiwlans awyr gyrraedd i'w helpu a rhoi gofal meddygol iddo yn y fan a'r lle."

Modelau yn sioe ffasiwn ddiweddar Cangen Mawddwy lle mae Geunor Roberts, y Llywydd Cenedlaethol, yn aelod - hi oedd y cyflwynydd ar y noson.
Modelau yn sioe ffasiwn ddiweddar Cangen Mawddwy lle mae Geunor Roberts, y Llywydd Cenedlaethol, yn aelod - hi oedd y cyflwynydd ar y noson (Merched y Wawr)

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf.

Caiff ei darparu drwy drydydd sector unigryw a phartneriaeth sector cyhoeddus. Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar roddion y cyhoedd i godi'r £11.2 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a'r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus o'r GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.

Mae'r gofal critigol uwch hwn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, trallwyso gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hyn oll ar safle digwyddiad.

Fel gwasanaeth i Gymru gyfan, bydd y criwiau ymroddedig, waeth ble maent wedi'u lleoli, yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal critigol mewn argyfwng.

Pan gafodd Geunor ei phenodi fel Llywydd Cenedlaethol, galwodd ar ei haelodau i'w helpu i godi arian ar gyfer yr elusen.

Roedd mor falch o'r 'haelioni', gyda 'miloedd o eitemau' yn cael eu rhoi a'u gwerthu mewn stondinau mewn Eisteddfodau, sioeau amaethyddol a digwyddiadau sêl cist car.

Dywedodd: "Mae llawer o glybiau a changhennau Merched y Wawr wedi cyfrannu drwy gynnal eu digwyddiadau eu hunain i godi arian.

"Cododd aelodau yng Ngheredigion swm sylweddol mewn noson steilio gwallt cyrliog a chafodd gwasanaeth carolau llwyddiannus iawn ei gynnal yng Nghaerfyrddin."

Mae Geunor hefyd yn ddiolchgar am y gefnogaeth a gafodd gan y gymuned leol.

Dywedodd: "Penderfynodd teulu sy'n ffermio ger Aran Fawddwy roi cyfran o'r rhoddion gan gerddwyr a dringwyr sy'n parcio ar eu tir drwy ein hapêl arbennig, er eu bod fel arfer yn rhoi'r arian yn uniongyrchol i'r elusen."

Yn ddiweddar, cynhaliodd cangen leol y gyn athrawes ym Mawddwy 'noson ffasiwn a fizz' lle cafodd dillad 'fel newydd' eu rhoi a'u modelu gan yr aelodau. Dywedodd ei bod yn 'noson gymdeithasol wych.'

Ychwanegodd Geunor: "Rydym wedi gwerthu eitemau ar Vinted, ac aeth ein Cyfarwyddwr Cenedlaethol, Tegwen Morris, â stondin i sêl cist car yng Nghlarach, yn ogystal â rhoddion gan unigolion, mae'r rhestr yn hirfaith.

"Mae'r cymorth wedi bod yn ardderchog, ac rwy'n falch iawn o'n haelodau a phopeth y maent wedi'i wneud i'n helpu i godi cymaint o arian â phosibl i Ambiwlans Awyr Cymru."

Mae Merched y Wawr yn hyrwyddo materion menywod ac yn cefnogi diwylliant, addysg a'r celfyddydau yng Nghymru. Os hoffech ddod yn aelod, cysylltwch â Swyddfa Merched y Wawr ar 01970 611 661 neu e-bostiwch [email protected].

Dywedodd Phae Jones, Cyfarwyddwr Cynhyrchu Incwm Ambiwlans Awyr Cymru: "Hoffwn ddiolch yn fawr i holl aelodau Merched y Wawr am eu cymorth anhygoel yn ystod 2023/25.

"Mae teulu Ambiwlans Awyr Cymru yn ddiolchgar iawn o'u nod i godi gymaint o arian â phosibl ar gyfer ein helusen.

"Mae £26,000 yn swm anhygoel a bydd yn helpu i achub bywydau. I roi hynny mewn cyd-destun, mae'r swm yn cyfateb i gost wyth galwad sy'n achub bywyd.

"Mae partneriaethau elusennol yn allweddol i gynnal y gwasanaeth; maent yn sicrhau y gallwn barhau i fod yno i gleifion pryd bynnag a ble bynnag y bydd angen."