BYDD rhai o newyddiadurwyr mwyaf blaenllaw Cymru yn rhannu'r straeon pwerus sydd wedi creu argraff fawr arnyn nhw yn bersonol ac ar eu gyrfaoedd yn y gyfrol newydd Fy Stori Fawr Arall gan wasg Y Lolfa.

Bydd Siôn Jenkins o ITV Cymru, cyflwynydd Pawb a’i Farn a’r Byd ar Bedwar ar S4C, yn trafod stori a wnaeth chwalu stereoteips Cymraeg wrth ffilmio gweithwraig rhyw wrth ei gwaith a datgelu sgandal rhyw am rent.

“Nath y rhaglen ennill rhaglen newyddion a materion cyfoes y flwyddyn yn 2018 oedd yn arbennig iawn iawn iawn. Dwi’n cofio i’r panel beirniadu ddisgrifio‘r rhaglen fel tabloid journalism with a purpose. Doedd neb wedi neud rhaglen am sex for rent o’r blaen a ma hynny yn destun balchder i fi.”

Bydd yna hefyd gyfle prin i glywed un o newyddiadurwyr gwleidyddol mwyaf uchel ei barch y wlad, Vaughan Roderick, BBC Cymru, yn trafod stori allai fod wedi mynd yn angof. Nid yw achos ffrwydradau Caerdydd ym 1983 wedi cael yr un sylw ag ymchwiliadau Meibion Glyndŵr, ond mae Vaughan yn sicr ei fod yn drobwynt yn hanes gwleidyddol Cymru.

“Beth sy’n ddiddorol am y stori ‘ma yw bod Heddlu De Cymru ar y pryd yn weddol bwdr, yn enwedig y CID.

“Doedden ni ddim yn gwybod hynny ar y pryd.

“Fe ddaeth hynny yn amlwg yn ddiweddarach oherwydd achosion fel Lynette White a’r Cardiff Three ac yn y blaen.

“Daeth hi’n amlwg bod yr heddlu yn rhoi pwysau anheg ar bobl on nhw’n holi, yn ffugio cyffesiadau ac yn ymyrryd â thystiolaeth.

“Ond yr achos yma oedd y prawf cyntaf, a nath y cyfryngau Saesneg fwy neu lai anwybyddu’r stori. Petae nhw wedi talu sylw, rwy’n meddwl efallai na fyddai’r achosion mwy enwog o gamweinyddu cyfiawnder ar ran Heddlu’r De wedi digwydd.”

Hefyd ar y panel fydd Helen Llewelyn, newyddiadurwraig a chynhyrchydd dogfennau mentrus i ITV Cymru sydd â phrofiad unigryw o ffilmio gyda’r gwasanaethau brys. Bydd hi’n trafod stori lle bu’n rhaid iddi wynebu cwestiynau moesol wrth barhau i ffilmio tra bod mam a’i babi newydd-anedig yn brwydro am eu bywydau wedi damwain ffordd arswydus.

“Gyda’r ddamwain yma doedd pethe ddim yn edrych yn dda. Gallen i fod wedi cwympo mewn i’r trap a meddwl bo nhw yn marw a bod well i fi stopio ffilmio.

“Ond, nath y ddau ohonyn nhw dynnu drwyddi. A nawr, ro’n nhw mor falch fy mod i wedi’i ffilmio fe.

“Ro’n nhw’n falch bod modd dangos i bawb beth oedd wedi digwydd. Edrychodd hi mewn i’n llygaid i a dweud,

“Onibai am help y gwasanaethau brys y diwrnod ‘ny fasen i ddim yma. Rwy’n ddiolchgar iawn, iawn.”

Mae Fy Stori Fawr Arall yn ddilyniant i lyfr Fy Stori Fawr, sy’n cofnodi yr effaith gafodd gohebu ar rai o newyddiadurwyr mwyaf blaenllaw ac uchel eu parch Cymru.

Yn y gyfrol mae 12 o newyddiadurwyr yn sôn am stori fawr yn eu gyrfa oedd wedi creu argraff ddofn ar eu bywydau. Yn ogystal â Vaughan Roderick, Helen Llewelyn a Siôn Jenkins, cyfranwyr eraill y gyfrol yw

  • Rhodri Llywelyn
  • Rhys Williams
  • Anna Marie Robinson
  • Aled Scourfield
  • Mai Davies
  • Rachel Garside
  • Andy Bell
  • Nia Thomas
  • Elen Wyn

Mae’r straeon yn mynd â ni o ohebu ar drychineb lofaol waethaf Cymru yn y blynyddoedd diweddar, i guddio rhywioldeb tra’n holi Prif Weinidog Awstralia, ac yn datgelu ochr beryglus gohebu - pan gafodd criw newyddion ITV Cymru eu caethiwo gan ddynion arfog mewn ysbyty yn Gaza.

Mae’r llyfr hwn yn datgelu sut mae gohebwyr yn gorfod dygymod â lleoliadau ffilmio argyfyngus wedi trychinebau naturiol a hefyd ymateb ffyrnig ar y cyfryngau cymdeithasol i straeon sy’n codi gwrychyn.

Golygydd y gyfrol yw Gwenfair Griffith sydd yn ddarlithydd newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Meddai: "Nid dim ond llyfr am y straeon gafodd eu darlledu yw hwn, mae am brofiadau’r gohebwyr tu ôl i’r straeon, yr effaith emosiynol arnyn nhw a’r effaith ar y gymdeithas hefyd.

“Mae am y cwestiynau moesol mae gohebwyr yn eu hwynebu, y wefr o ohebu ar stori gyffrous, a’r adegau hynny sy’n aros gyda chi am byth.

Lansiad

Lleoliad: Iard y Brenin, Pontcanna

Dyddiad: Dydd Iau, 25 Medi 2025

Amser: 7:00 PM

Mynediad: Am Ddim

Noddwyr: Siop Caban ac Y LOLFA

FY STORI FAWR ARALL – ISBN 9781800997028 Gwasg Y Lolfa - £9.99