DALIWCH gafael ar eich hetiau tal gwyn – mae’r Smyrffs yn ôl!

Am y tro cyntaf mewn dros chwarter canrif, mae’r hoff gymeriadau drygionus sydd ddim ond yn dair afal o daldra, yn dychwelyd i’r sgrîn Gymraeg.

Mae’r cymeriadau bach eiconig hyn sydd wedi difyrru plant am genedlaethau yn smyrffio eu ffordd yn ôl i fewn i’n cartrefi – ond y tro hwn gyda thafod gwlad y gân.

Bydd Y Smyrffs yn ail gyflwyno wynebau cyfarwydd i’n sgrîn fel Smyrffen, Tada Smyrff doeth, ac hefyd y cymeriad dichellgar sydd yn hela’r Smyrffs, Craca Hyll. Bydd rhain i gyd â lleisiau Cymraeg newydd yn dod â’r byd hudolus yn fyw.

Roedd ymwelwyr ffodus ag Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr, wedi cael eu sbwylio wrth gael gweld egsgliwsif o’r ddwy bennod gyntaf – Trwyn a Hanner ac Y Robot Magu – wnaeth ddiddanu’r gwylwyr iau a hŷn.

Cafodd Y Smyrffs eu creu gan y cartwnydd o Wlad Belg Peyo yn 1958. Ers hynny mae’r Smyrffs wedi bod yn ffenomen rhyngwladol am dros chwe degawd gan ddod yn fyw mewn llyfrau comig, cyfresi animeiddio, ffilmiau poblogaidd, ac atgofion plentyndod ar draws y byd. Gyda diolch i S4C, mae’n nhw nawr yn barod i swyno cenhedlaeth newydd o Gymry.

“Mae’r Smyrffs wastad wedi bod am gyfeillgarwch, cymuned ac efo pinsiad go fawr o rhialtwch,” meddai Sioned Geraint, Comisiynydd Cynnwys, Plant a Dysgwyr. “Dyn ni wrth ein bodd cael dod â’r cymeriadau bythol wyrdd yn ôl yn Gymraeg, ac yn ymwybodol y bydd y plant a rhieni nostalgaidd yn syrthio mewn cariad efo’r Smyrffs unwaith eto.”

Mae’r dychweliad yn cyd-fynd â’r ailgychwyn animeiddiedig poblogaidd o 2021, sy’n cael ei ddarlledu ar Nickelodeon ac ar gael i’w ffrydio ar lwyfannau fel Netflix.

A chyda’r ffilm newydd o fyd y Smyrffs wedi ei chyhoeddi’n ddiweddar—gyda neb llai na Rihanna yn chwarae rhan Smyrffen, a’n smyrffio i’r sinemâu ym mis Gorffennaf 2025—mae Smyrffmania yn ôl yn ei hanterth.

Y Smyrffs, dydd Mawrth, 3 Mehefin, 5pm. Ar alw: S4C Clic ac iPlaye. rCynhyrchiad Cwmni Da ar gyfer S4C.