WRTH i Rali Ceredigion ruo i fewn i Aberystwyth yn ddiweddar, fe ailgyhoeddwyd nofel i blant 7 i 11 oed Y Rali Fawr gan Anwen Francis (Y Lolfa).
Wedi’i hysbrydoli gan ei mab Henri, a oedd yn 12 oed ar y pryd, mae Y Rali Fawr yn dilyn bachgen ifanc sy’n cael llywio mewn rali am y tro cyntaf.
Mae llywio yn rhan hanfodol o ralio ac yn gofyn am gywirdeb, dewrder a threfniant eithriadol, gan mai’r llywiwr sy’n dweud wrth y gyrrwr yn union beth sydd o'u blaenau ar y ffordd.
Erbyn hyn, mae Henri yn 18 oed ac wedi gwireddu ei freuddwyd gan ralio, gan gystadlu mewn ralis dros Brydain.
Meddai Anwen: “Mae Henri wedi ysu i gymryd rhan mewn rali ers blynyddoedd, ond gan ei fod ddim yn ddigon hen i yrru, cyd-yrru oedd ei unig opsiwn – tan leni.
“Yn 18 oed erbyn hyn mae’n cystadlu ar draws Prydain mewn amryw o gystadlaethau fel gyrrwr ac yn cael cryn lwyddiant yn ei Mini bach glas.
Yn Y Rali Fawr mae Henri yn 12 oed ac yn llywio yn ei rali gyntaf. Ond daw helbul i’w rhan - damweiniau wrth daro mochyn daear a gât fferm, asyn yn gwrthod symud o ganol yr hewl ac ar ben popeth mae'n dechrau bwrw eira.
“Ysgrifennais Y Rali Fawr achos sylweddolais nad oedd llyfr tebyg ar y farchnad a meddyliais y byddai’n braf ysgrifennu nofel gyffrous am antur ar rali ffordd fwyaf gyda’r nos ym Mhrydain, sef y Cilwendeg enwog, sydd yn cael ei chynnal yn ardal Castellnewydd Emlyn.
“Mae’n hyfryd gweld y llyfr yn ôl ar y silffoedd er mwyn gweld plant yn mwynhau’r stori unwaith eto. Er nad yw Henri wedi dod ar draws asyn ar y ffordd fawr eto fel sy’n digwydd yn y nofel, mae'r posibiliadau yn ddiddiwedd ar unrhyw rali. Gall unrhyw beth ddigwydd!”






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.