Mae S4C yn falch o gyhoeddi bod cwmnïau cynhyrchu Tŷ’r Ddraig, Captain Jac a Boom Cymru wedi ennill cytundebau i greu cynnwys newydd ar gyfer y darlledwr.
Pecyn amrywiol o gynnwys gwreiddiol sydd ar y gweill gan Tŷ’r Ddraig a Captain Jac, wedi i’r cwmnïau sydd wedi eu lleoli yn Wrecsam a Sir Gaerfyrddin gydweithio i ennill tendr dwy flynedd i greu cynnwys ffeithiol ar gyfer S4C. Bydd y cwmnïau’n paratoi amrywiaeth o gyfresi, dogfennau sengl, cynnwys ffurf fer ar gyfer YouTube a chynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol. Bydd yr arlwy newydd yn cynnwys fformatau gwreiddiol, dogfennau gwir-drosedd, a chyfres daith yn America.

Boom Cymru ddaeth i’r brig yn dilyn Galwad Agored wedi ei ariannu gan S4C a Chyngor Celfyddydau Cymru i greu Dogfen Ffurf Hir Celfyddydol. Bydd y Ffilm Ddogfen 90 munud yn canolbwyntio ar draddodiad cerddoriaeth hip hop Gymraeg, a hynny trwy olwg ar waith a bywyd un o arloeswyr sin bît-bocsio’r Deyrnas Unedig, Mr Phormula - sef Ed Holden. Y cyfarwyddwr ffilmiau a rhaglenni dogfen Gruffydd Davies fydd yn cyfarwyddo, yn dilyn ei lwyddiant gyda ffilmiau dogfen diweddar megis Anorac, a Gwlad Bardd, sydd newydd dderbyn enwebiad yng Ngŵyl Gwobrau Celtaidd 2026.
Meddai Llion Iwan, Prif Swyddog Cynnwys S4C: “Mae’n bleser dyfarnu’r cytundebau hyn i Tŷ’r Ddraig, Captain Jac a Boom Cymru; lleisiau cryf a chreadigol o fewn y sector gynhyrchu. Mae’r comisiynau hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i sicrhau cynnwys ffeithiol o’r radd flaenaf, sydd nid yn unig yn berthnasol ond fydd hefyd yn diddanu ein cynulleidfaoedd amrywiol ledled Cymru a thu hwnt. Mae’r cwmnïau hyn yn dod a phrofiad yn ogystal â syniadau newydd a beiddgar at y bwrdd, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld ei syniadau yn dod yn fyw ar S4C.”

Yn ôl Catrin Rowlands a Trystan Dafydd Rowlands o gwmni Captain Jac, mae sicrhau tendrau o’r math hyn yn agor drysau i genhedlaeth newydd o bobl greadigol: “Mae creu rhaglenni dogfen pwerus a chynnwys ffeithiol diddorol wrth wraidd popeth ni’n gwneud. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i wneud yr hyn rydym yn ei garu gyda’n cydweithwyr llawrydd talentog, ac agor drysau i'r genhedlaeth nesaf o dalent greadigol yng Ngorllewin Cymru. Rydym hefyd yn edrych ymlaen at y cyfle hwn i weithio ochr yn ochr â thîm gwych Tŷ'r Ddraig.”
Ychwanegodd Ben Smith o Tŷ’r Ddraig, rhan o Grŵp Workerbee Banijay UK: “Mae'n anrhydedd i ni ennill y tendr ffeithiol gan S4C - mae'n foment drawsnewidiol ac yn gyfle arbennig i ni yn Tŷ'r Ddraig a'n partneriaid Capten Jac. Yn ogystal â bod yn gyfle cyffrous i greu fformatau a rhaglenni dogfen newydd ac arloesol, mae’n gyfle i ni weithio gyda thalent cynhyrchu newydd yn ein hardaloedd a chreu cyfloed iddynt ddatblygu.”
Dywedodd Beca Evans o Boom Cymru: “Rydym yn gynhyrfus i gynhyrchu dogfen nodwedd fydd yn olrhain hanes pedwar degawd o gerddoriaeth hip hop Cymraeg, gyda’r rapiwr dihafal Mr Phormula - Ed Holden - yn curadu. Dyma artist sydd wedi torri tir newydd o fewn y genre yng Nghymru, tra’i fod hefyd wedi derbyn cydnabyddiaeth ryngwladol am ei waith fel bît-bocsiwr, rapiwr a chynhyrchydd cerddoriaeth blaenllaw. Cyfarwyddwr y ffilm yw Gruffydd Davies, sy’n angerddol am gerddoriaeth Gymraeg ac am greu ffilmiau celfydd.”






Comments
We've recently changed our login process. If you have an account for commenting, you will need to re-register on the login window.
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.