FEL rhan o’r bartneriaeth rhwng yr Urdd a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, mae prosiect newydd wedi’i greu i gynnig blas o’r Gymraeg i bobl ifanc 16-18 oed sy’n defnyddio Gwasanaeth Awyr Agored y mudiad.
Mae’r prosiect yn torri tir newydd trwy gynnig cwrs blasu Cymraeg i ddisgyblion a myfyrwyr di-Gymraeg fel rhan o’u gweithgareddau gyda’r Gwasanaeth Awyr Agored.
Mae’r Gwasanaeth yn cydweithio â cholegau chweched dosbarth, ysgolion a gwasanaethau ieuenctid i gynnig profiadau yn yr awyr agored, gan gynnwys alldeithiau Gwobr Dug Caeredin, canwio, beicio mynydd a dringo.
Bellach, gall pobl ifanc ddilyn hyfforddiant Dysgu Cymraeg tra’n gweithio â chriw y Gwasanaeth. Mae’r hyfforddiant yn cynnwys modiwl hunan-astudio ar-lein sy’n cynnwys unedau ar ynganu, sut i gyfarch yn Gymraeg, a sut i ddweud brawddegau syml fydd yn ddefnyddiol yn yr awyr agored.
Bydd y bobl ifanc yn cwblhau’r modiwl ar-lein cyn mynychu’r weithgaredd awyr agored, pan fydd yr hyfforddwyr ac arweinwyr yn atgyfnerthu’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu ar-lein.
Dyma’r datblygiad diweddaraf yn y bartneriaeth rhwng y Ganolfan a’r Urdd. Yn barod mae tiwtor Dysgu Cymraeg wedi’i leoli gyda’r mudiad, i gynnal cyrsiau ar gyfer dechreuwyr a chefnogaeth Codi Hyder a Defnyddio.
Mae’r bartneriaeth yn rhan o ddarpariaeth ehangach y Ganolfan ar gyfer pobl ifanc, sydd ar gael yn rhad ac am ddim i’r grŵp oedran yma, ac sy’n cynnwys dewis eang o gyrsiau ar wahanol lefelau dysgu.
Meddai Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “’Dyn ni’n hynod falch o’r prosiect diweddaraf yma gyda’r Urdd, sy’n cynnig cyfle arbennig i bobl ifanc ddechrau dysgu’r iaith mewn maes sydd o ddiddordeb iddyn nhw.
“Mae chwilio am gyfleoedd creadigol i gyflwyno’r Gymraeg i’r to iau yn rhan bwysig o’n gwaith, ac mae’r ymateb i’r prosiect, hyd yma, yn gadarnhaol iawn.
“Unwaith iddynt gwblhau’r modiwl, mae cyfleoedd pellach i’r bobl ifanc ymuno yn ein dosbarthiadau Dysgu Cymraeg.”
Meddai Siôn Lloyd, Rheolwr Gwasanaeth Awyr Agored yr Urdd: “Mae’r cwrs wedi cael ymateb da iawn hyd yn hyn, a’r bobl ifanc yn mwynhau defnyddio geiriau a thermau newydd sy’n berthnasol iddynt.
“Rydyn ni’n gweld newid ar ôl i’r myfyrwyr wneud y modiwl, gan fod pethau bychain yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr – fel gallu ynganu enw mynydd, dringfa neu lyn yn gywir, gallu cyfarch yn Gymraeg neu ddeall gorchymyn syml.”
Un o’r colegau sydd wedi gwneud y modiwl yw Coleg Caerdydd a’r Fro. Mae’r Coleg yn cyd-weithio â’r Urdd ar gyrsiau Arweinyddiaeth Chwaraeon NVQ Lefel 2 a 3.
Yn ôl Alun Jones, sy’n ddarlithydd yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro: “Mae canran uchel o’n myfyrwyr yn ddi-Gymraeg, ac mae’n wych gweithio â’r Urdd a’r Ganolfan, gan fod pob sesiwn yn cael ei chyflwyno yn y ddwy iaith, sy’n normaleiddio’r Gymraeg ymysg ein holl fyfyrwyr.
“Roedd y sesiwn yn cyflwyno geirfa awyr agored yn wych, gan gychwyn â phethau syml iawn fel gallu ynganu’n gywir. Yna, symud ymlaen i ddysgu termau fydd o ddefnydd iddyn nhw yn ystod eu sesiynau gyda’r Urdd, ond hefyd i’r dyfodol os byddan nhw’n dewis gweithio yn y maes awyr agored yng Nghymru.”
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.