Heddiw mae mudiad ieuenctid cenedlaethol mwyaf Cymru, Urdd Gobaith Cymru wedi cyhoeddi manylion chwe phrosiect newydd fydd yn dathlu a chefnogi ymdrechion tîm pêl-droed menywod Cymru ym Mhencampwriaeth Ewro 2025.
Mae’r Urdd wedi derbyn nawdd drwy gronfa Euro 2025 Llywodraeth Cymru i gynnal chwech o brosiectau sy’n cyd-fynd â ymgyrch #FelMerch yr Urdd; ymgyrch sy’n ysbrydoli, cefnogi a grymuso merched a menywod ifanc i gadw’n actif a chwalu rhwystrau sy’n eu hatal rhag cymryd rhan mewn chwaraeon.
Un o’r prosiectau cyntaf yw Jambori’r Ewros; digwyddiad rhithiol cenedlaethol mewn partneriaeth â Chymdeithas Bêl-droed Cymru, S4C, Boom Plant a BBC Cymru Wales fydd yn rhoi cyfle i holl ddisgyblion cynradd Cymru ddod ynghyd i ganu a dathlu camp y menywod yn Euro 2025.
Mae hyn yn dilyn llwyddiant ysgubol Jambori Cwpan y Byd Urdd Gobaith Cymru, a ddaeth a dros 250,000 o blant at ei gilydd i ganu, dathlu a chefnogi tîm dynion Cymru nôl yn 2022.
Ynghlwm â’r Jambori mae prosiect Anthem Ewros #FelMerch; Caryl Parry Jones fydd â’r dasg o gyfansoddi anthem newydd sbon i gefnogi’r tîm pêl-droed cenedlaethol, a caiff plant Cymru gyd-ganu’r anthem yn ystod y Jambori yng nghwmni neb llai na’r band Eden, a’r cantorion Aleighcia Scott a Rose Datta, enillydd cystadleuaeth Y Llais 2025.
Yn ogystal, bydd digwyddiad Gwerin #FelMerch, mewn partneriaeth â phrosiect TwmpDaith, yn rhoi cyfle i griw o ferched ifanc yr Urdd i deithio i’r Swistir i arddangos talent gwerin gyfoes o Gymru. Mae Gŵyl Chwaraeon Ewros eisoes wedi ei chynnal yn Aberystwyth a trefnir ymweliad i’r Swistir gan Lysgenhadon Ymgyrch #FelMerch.
Yn yr Hydref bydd Cynhadledd Undydd #FelMerch yn cloi’r cwbl gan sicrhau gwaddol a pharhad o gwaith yr Urdd o rymuso merched drwy chwaraeon.
Yn ystod Eisteddfod yr Urdd fe fydd ardal Chwaraeon yr Urdd yn hwb o weithgaredd amrywiol i blant Cymru gyda ffocws pellach ar rymuso drwy chwaraeon.

Fe fydd gweithgareddau golff yn cael eu cynnal yn ddyddiol fel rhan o ymweliad Pencampwriaeth AIG i Fenywod sy’n ymweld â Phorthcawl fis Gorffennaf – y digwyddiad Chwaraeon menywod mwyaf o’i fath i ddod i Gymru.
Dywedodd Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd: “Wrth i garfan menywod Cymru gystadlu ym Mhencampwriaeth EURO 2025 am y tro cyntaf erioed, daw cyfle diguro i ni fel mudiad ieuenctid mwyaf Cymru i blethu hyn oll â’n hymgyrch #FelMerch.
“Rydym yn edrych ymlaen at wireddu’r prosiectau hyn fydd yn tanio diddordeb ac yn ysbrydoli plant a phobl ifanc Cymru gydol yr ymgyrch, gan roi cyfle iddynt fod yn Gymry balch wrth gyd-ganu a chefnogi’r tîm, yn ogystal â chymryd rhan mewn digwyddiadau chwaraeon a chelfyddydau arbennig yma yng Nghymru ac yn y Swistir.
“Rydym yn ddiolchgar iawn am y nawdd gan Lywodraeth Cymru ac i Gymdeithas Bêl-droed Cymru a’n holl bartneriaid am fod mor barod i gyd-weithio, a’n cefnogi i gyflawni ein nod o greu gweithgarwch cymunedol ledled y wlad fydd yn rhoi ymdeimlad o berthyn i’r ymgyrch bêl-droed i blant a phobl ifanc Cymru, a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg.”
Dywedodd y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, Jack Sargeant: “Rydym yn mabwysiadu dull cydweithredol 'Gorau chwarae, cyd chwarae' i greu gwaddol parhaol o gamp hanesyddol Tîm Menywod Cymru ar gyfer Ewro 2025.
“Bydd ein cronfa gwerth £1 miliwn yn defnyddio arbenigedd amhrisiadwy amrywiaeth o sefydliadau fel yr Urdd i wella ein presenoldeb yn y twrnamaint ac adeiladu gwaddol a fydd o fudd i gymunedau y tu hwnt i’r chwiban olaf.
“Bydd chwe phrosiect newydd yr Urdd - a gyhoeddwyd heddiw - nid yn unig yn hybu cyfranogiad mewn chwaraeon ar draws ein cymunedau ond byddant hefyd yn arddangos Cymru a’n diwylliant ar y llwyfan rhyngwladol.”
“Bydd y mentrau hyn nid yn unig yn tanio cefnogaeth i Gymru yn ystod y pencampwriaeth, ond hefyd yn ysbrydoli merched a menywod ledled Cymru i gymryd rhan ym mhêl-droed, ym mhob agwedd o’r gêm. Gyda’n gilydd, rydyn ni’n adeiladu rhywbeth arbennig a fydd yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr, hyfforddwyr, dyfarnwyr a chefnogwyr.”