BYDD cyfres newydd sbon ar S4C yn taflu golau ar ddyfeisgarwch ac ysbryd entrepreneriaid Cymru o’r byd bwyd a diod.

Mae Busnes Bwyd, fydd ymlaen ar ddydd Mawrth, 4 Mehefin am 9pm, yn dilyn chwech o gynhyrchwyr lleol nodedig wrth iddynt fynd benben i geisio ennill £5,000 a mentoriaeth arbenigol er mwyn cymryd eu mentrau i'r lefel nesaf.

Mae'r gyfres yn cynnwys rhestr amrywiol o berchnogion busnesau bach, pob un wedi eu seilio ar y gymuned, treftadaeth, ac angerdd am gynnyrch o ansawdd.

Yn ystod cyfres o heriau, byddant yn wynebu cael eu profi mewn brandio, cynllunio busnes, ac apêl o fewn i’r farchnad.

Ond bydd cymorth wrth law dan arweiniad dau o feddyliau busnes craffaf Cymru.

Ymhlith y mentoriaid mae Marian Evans, entrepreneur a hyfforddwr busnes sydd wedi cael ei henwebu am wobrau.

Mae ei gyrfa'n ymestyn o ffermio i arwain. Mae Marian yn adnabyddus am ei chyngor ymarferol a'i gallu i allu adnabod potensial mewn llefydd annisgwyl. Mae hi’n dod â llygaid masnachol a gwybodaeth ddwfn o'r diwydiant i'r gystadleuaeth.

Yn ymuno â Marian mae’r Athro Dylan Jones-Evans. Gellir ei ystyried ef fel arbenigwr entrepreneuraidd gwreiddiol Cymru.

Gyda degawdau o brofiad yn cynghori cyrff llywodraeth, prifysgolion, a sefydlwyr busnesau newydd, mae'n cynnig dull ddi-ffws sydd wedi ei seilio ar academia er mwyn helpu busnesau bach i lwyddo.

Rhyngddynt, mae'r ddau fentor wedi cefnogi cannoedd o fentrau ledled Cymru a thu hwnt — gan wneud eu cyfraniad ar y cyd yn un gwerthfawr yn y gyfres.

Tudur Owen fydd yn cyflwyno’r gyfres. Mae Tudur yn gyflwynydd a chomedïwr sydd wedi ennill BAFTA ac mae’n dod â chynhesrwydd, hiwmor, a dos go dda o ddrygioni wrth arwain y cystadleuwyr drwy heriau a hwyl y gystadleuaeth.

Y cystadleuwyr:

  • Laura Pozzi Evans (Pwllheli, Gwynedd): Cyd-sefydlwr Fferm Tŷ Cynan, fferm ffrwythau sy'n cynhyrchu mefus ffres, jamiau, a chutneys.
  • Cassius Walker (Port Talbot): Cyn enillydd yn y byd bocsio a sylfaenydd Portablo Coffi, busnes coffi wedi’i wreiddio yn y gymuned, gan ddefnyddio crochenwaith lleol ac yn enwog am ei flas coffi.
  • Sam Robinson (Machynlleth): Crefftwr seidr gyda’i fusnes Seidir Tydecho, mae’n defnyddio burum gwyllt a mêl lleol, ac yn breuddwydio am agor tŷ seidr Cymreig a stafell tap.
  • Matthew Rees (Caerfyrddin): Cigydd chweched cenhedlaeth â chwmni Albert Rees, mae’n gweithio i godi proffil eu cig moch PGI Caerfyrddin enwog a bellach cig eidion sydd newydd lansio.
  • Kristen Billings (Porth): Mae’r fam brysur yn rhedeg tri busnes bwyd symudol, gan gynnwys Rhianwen’s Bakes a fan brechdanau poblogaidd ar hyd Cwm Rhondda.
  • Dafydd Williams (Rhuthun): Cyn-athro sydd bellach yn pobi â’i fusnes Welsh Whisk, gan gynnig cacennau a bwyd melys wedi'u teilwra yn arbennig ar eich cyfer.

Gyda'i gilydd, bydd y mentoriaid a'r cyflwynwr yn herio'r chwe chystadleuydd i feddwl tu hwnt i’r bocs, miniogi eu brandiau, a phrofi bod ganddynt yr hyn sydd ei hangen arnynt i lwyddo mewn marchnad fwyd a diod sydd yn gystadleuol iawn.

Mae Busnes Bwyd yn addo tynnu dwr i’ch dannedd!