BYDD S4C yn darlledu pencampwriaeth Cwpan Dartiau’r Chwe Gwlad yn fyw o Ferthyr Tudful ym mis Mehefin, gan nodi darllediad dartiau byw cyntaf y sianel.

Mae’r bencampwriaeth yn cynnwys timau o Gymru, yr Alban, Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Iseldiroedd, a Gweriniaeth Iwerddon, gyda chystadlaethau unigol a chystadlaethau tîm i ddynion a menywod.

Dros dri diwrnod, mi fydd y darllediad byw yn cael ei ffrydio ar S4C Clic a sianel YouTube S4C Chwaraeon, gyda’r ffeinal hefyd yn cael ei ddarlledu yn fyw ar S4C nos Sul.

Darllediad digidol: Dydd Gwener, Mehefin 20, 17:00 tan 23:30; Dydd Sadwrn, Mehefin 21, 13:00 tan 20:15; Dydd Sul, Mehefin 22, 14:30 tan 18:30.

Darllediad llinol: Dydd Sul, Mehefin 22, 19:00 tan 22:30.

Bydd sylwebaeth Saesneg ar gael ar y darllediad ar S4C, S4C Clic a YouTube ac ar gael i’w wylio yn fyd eang.

Mae’r darllediad yn cael ei gyflwyno gan Sioned Dafydd, gyda sylwebaeth Gymraeg gan Gareth Roberts a sylwebaeth Saesneg ar gael gan Dan McCarthy.

Dywedodd Dylan Williams, o wefan Darts Cymru: “Mae'n gyffrous i weld dartiau cystadleuol yn dod i S4C. Gyda'r holl gyffro a'r angerdd o amgylch y gamp ar hyn o bryd, nid oes amser gwell wedi bod i'r sianel i ddangos ei chefnogaeth i’r gamp.

“Fel cefnogwr dartiau Cymru, mae gallu gwylio dartiau lefel uchel yn yr iaith Gymraeg yn rhywbeth na feddyliais erioed y byddwn i'n ei weld.”